Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llesteirio

llesteirio

Un feirniadaeth oedd bod yr adroddiadau am fwyd yn cael ei ddwyn yn annog pobl i beidio â chyfrannu'u harian ac felly'n llesteirio gwaith y mudiadau dyngarol.

Geisio sefydlu Fforwm Addysg i Gymru i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddarparu adnoddau digonol Mewn cyfnod pan fo'r Cynghorau newydd yn gyffredinol yn cael eu llesteirio gan fanylion ad-drefnu, mae cynghorwyr Ceredigion yn haeddu clod am geisio gweledigaeth o drefn addysg deg ar gyfer y dyfodol.

Mi ddaw gwlad fach Urmyc yn fwy clir ar y map yn y diwedd - wel, mae hi'n bownd o ddod yndydi, os can nhw wared ar yr holl niwl yna sydd wedi bod yn llesteirio eu datblygiad a'u gwelediad?

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor petai'r prosesau cadarnhaol hyn yn cael eu llesteirio.

I'r gwrthwyneb, eu gwahardd a'u llesteirio a wnaent fel arfer.

Mewn ardaloedd eraill, megis cymoedd y de lle mae'r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gellir rhagweld y byddai dileu cyfrifoldeb strategol yr awdurdod lleol yn llesteirio'r fath dwf yn y dyfodol.