Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llethol

llethol

Gadawyd Enlli wedyn am hydoedd a theimlai y byddai unrhyw beth yn well na thawelwch llethol y gell unig.

Yr oedd canran uchel ohonynt (saith deg y cant) y tu allan i'r eglwysi, ac i'r mwyafrif llethol roedd y gair 'Duw' yn gwbl ddiystyr, a'r goruwchnaturiol yn ddeimensiwn cwbl afreal.

Brwydrodd y clwb o Gymru yn ddewr yn y gwres llethol ond fe dalon nhw'n ddrud am fethu dau gyfle yn yr hanner cyntaf.

Ar adegau felly, yr oedd y gwres mor llethol yn y felin fel bod pum munud o flaen y ffwrnais yn ddigon i lorio'r cryfaf.

Anllythrennog hollol, fel y buasid yn tybio, yn eu mamiaith ac yn Lladin, oedd mwyafrif llethol lleygwyr y cyfnod.

Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.

Roeddent yn arogleuo mor llethol ag alcohol yn berwi dan flanced.

Fe dybiwn i fod gan fwyafrif llethol y Cymry waed Seisnig ynddynt.

Cyfraniad arloesol y ddrama ddideitl hon i dechneg sgrifennu theatrig yw'r 'distawrwydd llethol' ar y diwedd.

I'r mwyafrif llethol, os gwyddent amdani o gwbl, rhywbeth od ydoedd, eithriadol, eithafol, y tu allan i lif normal bywyd, a orfodid ar eu sylw o bryd i bryd gan ddarn o newydd neu ddatgan wasg neu ar y radio.

Byddem fel cymdeithas am ychwanegu hefyd bod mwyafrif llethol y cystadleuwyr a'u hyfforddwyr yn hapus iawn efo'r trefniadau.

Distawrwydd llethol, nes i'r plant deimlo fod eu hesgidiau hwy yn gwneud twrw mawr ar y llawr pren.

Rwy'n cofio'n glir cyrraedd Montreal yng nghanol storm drydanol enbyd, a gwres llethol ar ben hyrmy yn`sugno pob owns o- ~nni oedd- yn y corff.

Yn y cyfnod hwnnw a basiodd yr oedd llawer anhwylustod bid siwr, swm o anghyfiawnder o gormes, gyda chyflwr cymdeithas yn llethol o anwastad.

Yn y misoedd yma mae pawb yn tueddu i gymryd eu gwyliau ac/neu fyw yn eu hail dy ar lan y môr yn ymyl Rawson, er mwyn cael seibiant o'r gwres llethol.

Dw-i ddim yn cymryd 'Mae Gwilym yma' yn llethol o Iythrennol, bid siwr.

Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.

I'r mwyafrif llethol ohonynt, dyma'u profiad cyntaf o fod ar y mor mawr ar long hwyliau, eto roeddynt yn wynebu mordaith i fyd newydd trwy foroedd stormus a pheryglus iawn, moroedd a oedd yn hollol ddieithr i bron bawb o Ewrop lai na chan mlynedd ynghynt.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

ac y maent yn hyderus y bydd y mwyafrif llethol yn cytuno i hyn.

Roedd y distawrwydd yn llethol.

Ar ol cerdded am awr yn y gwres llethol daethon at le yr oedd yna gasgliad o waith a fu ar y graig ers miloedd o flynyddoedd.

Yr hyn sy'n drawiadol yw'r gwahaniaeth rhwng y proffil uchel bryd hynny a'r distawrwydd llethol yn awr...

Peryglus yw sentimentaleiddio - ynghlwm yn y gymdeithas gymwynasgar a chrefftus 'roedd y diciâu a thlodi a llafurio llethol.

Cyfnod oedd hwnnw pan oedd ymwybod â'r egwyddorion Cristionogol yn nodweddu mwyafrif llethol y boblogaeth.

(Distawrwydd llethol.)

Enwau ar yr haenau o lo sy'n britho'r ardal ydynt, wrth gwrs, ac er bod y mwyafrif llethol o lofeydd y gymdogaeth bellach wedi cau, y mae enwau'r gwythiennau glo yn dal ar dafod leferydd glowyr y fro.

Ychwanegir at hyn bellach bwysau llethol y datblygiadau technolegol sy'n galluogi grymusterau heblaw'r wladwriaeth i drin a moldio bywyd pobl.

Ond does dim cywair llethol o anobeithiol i'r ffilm.

Ni fydd yn chwith gennyf gefnu ar y Pencadlys, gan fod mwyafrif llethol y cwmni a ddaeth yma o Rouiba wedi gwasgaru eisoes.

Y mae hwn yn gyflwr difrifol a hynod o annymunol sy'n achosi gwres uchel iawn a gwendid llethol ynghyd ag iselder ysbryd.

Pan ddywed rhywun y geiriau "Llên Gwerin", fel arfer, fe aiff ein meddyliau i gyfeiriad ers talwm: daw i gof hen chwedlau, hen ddywediadau a hen gredoau, a teg yw dweud hefyd, yn nhyb y mwyafrif llethol o bobl, mai perthyn i'r gorffennol mae pethau llên gwerin hefyd, sef coblynod, tylwyth teg, cewri ac yn y blaen.

Y rheini oedd â daliadau gwleidyddol asgell chwith oedd y mwyafrif llethol yr effeithiwyd arnynt.

Enillai'r mwyafrif llethol ohonynt eu bywoliaeth drwy drin y tir a bugeilio gwartheg neu ddefaid.

Ond yr oedd y mwyafrif llethol o aelodau'r Lluoedd Arfog y cysylltodd â hwy, wedi ymwadu'n bur gyffredinol ag iaith draddodiadol crefydd a diwinyddiaeth.

Y mae'r mwyafrif llethol ohonynt yn yr Amser Presennol Cyffredinol: 'Ymlid y gwynt yr wyt ti','Nid adwaenost ti na'th di dy hunan', 'Pawb yn sôn am Dduw', 'Ag och och och fod llaweroedd o'r Cymru hefyd .

MAE un peth y gall y mwyafrif llethol ohonom yng Nghymru gytuno arno, sef mai tonic i'r enaid oedd gweld y Toriaid yn cael y fath gosfa yn Etholiad Ewrop.

Yr oedd rhyw erfyn a distawrwydd llethol wedi meddiannu'r hen gwm i gyd.

Gweinidogion oedd golygyddion y mwyafrif llethol ohonynt ac yr oeddent yn awyddus i gefnogi llenorion ac nid oedd dim yn rhoi cymaint o hwb i lenor ifanc â gweld ei waith mewn print.

Eu trosedd oedd peri difrod i ysgol fomio ar Benrhyn Ll^yn, a osodwyd yno yn groes i fwyafrif clir o bobl Cymru, a mwyafrif llethol pobl Ll^yn.

Ar wahân i leiafrif bychan (un o bob saith neu wyth) a barhaodd yn gadarn yn eu hymlyniad wrth y Ffydd, yr oedd y mwyafrif llethol yn 'faterolwyr rhonc', yn ôl Edward J.

A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.

Daw Lucien Bouchard o Lac Saint-Jean, ardal lle mae mwyafrif llethol y boblogaeth yn uniaith Ffrangeg ac yn genedlaetholwyr o hil gerdd.

Edwards, ac yn groes i farn y myafrif llethol o addysgwyr Cymru, cydymffurfiodd y Swyddfa Gymreig yn hunan-fodlon ddigon â'r patrwm preifateiddio a luniwyd gan y Weinyddiaeth Addysg.

Mewn rhan o Asia lle roedd y Moslemiaid yn fwyafrif llethol hyd nes dyfod cyfnod Stalin, mae crefydd yn blodeuo eto a'r grefydd honno yn ei thro yn erfyn y gellir ei ddefnyddio i ledu'r bwlch rhwng Uzbekistan a Rwsia.