Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llethu

llethu

Cysgoda drosom; gwarchod ni; nertha ni pan fo gwendid yn ein llethu; arwain ni pan awn ar ddisberod; adnewydda'n gobaith pan fyddwn yn digalonni; eneinia ni â'th faddeuant i'n glanhau oddi wrth staen ein pechod.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Bydd atgofion yn fy llethu weithiau, ond maent yn gysur hefyd.

Pan oedd ein cyndadau wedi eu llethu gan anobaith, cawsant eu bywioca/ u gan rym atgyfodiad Pen Mawr yr Eglwys.

Ac na, dydw i ddim yn mynd ich llethu gyda stori arall, eto fyth, am drens yn rhedeg yn hwyr a chael fy nghadw i ddisgwyl oriau ar blatfform oer.

Mae'r dolefain oeraidd yna yn fy llethu i; sŵn dyn ar fin marw ydy o.

Prifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd startslyd wedi bod yn fy 'sgidiau i, ag anffyddiaeth yn f'ysu ac anghrediniaeth yn fy llethu!

Roedd fel petai'n ysu am neidio arnyn nhw a'u llethu.

Iach am ei bod yn tynnu gwen i wynebu gwylwyr gan bortreadu pobl yn herio'n hamgylchiadau yn lle caniatau iddynt eu llethu'n llwyr.