Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llewyrch

llewyrch

Nid oedd llewyrch o oleuni i'w weld yn unman wedi nos ac amharai hynny ar bresenoldeb yn yr oedfeuon.

Ar ogwydd felly, edrychai'r bonet bach yn debyg iawn i'r llewyrch hwnnw a beintir o gylch pennau saint mewn hen ddarluniau.

Erbyn hyn, os oes dau neu dri o dai yn weddol agos at ei gilydd ar fin y ffordd, mae'n rhaid cael lamp drydan i gneitio drwy'r nos ar ddrysau caeedig a ffordd ddidramwy, ac y mae goleuadau'r man bentrefi'n llewyrch melyn yn yr awyr dywyll.

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

Fydd raid inni ond gwylio'r awyr am y llewyrch.'

Yr oedd Cyngor y Coleg wedi penodi Pwyllgor Amddiffyn rhag Cyrchoedd Awyr o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ifor Williams ac aeth hwnnw ati i sicrhau nad oedd yr un llewyrch o oleuni i'w weld trwy ffenestri'r adeiladau.

Gwylient y golau yn troi yn yr awyr fel llewyrch o oleudy fel yr âi'r cerbyd heibio i ambell dro yn y ffordd.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.

'Gwyliodd y tri y llewyrch yn goleuo'r awyr.

Mae'n byw ac yn rhodio felly yn llewyrch goleuni Duw.

Yr eiliad nesaf fflachiodd llygad y Cripil unwaith yn rhagor yn fflam y tân a phan beidiodd y llewyrch meddai, "Fe enir mab arall i'r arglwydd Gruffudd ond nid da gormod o feibion 'chwaith rhag bod ymrafael rhyngddynt." "Gwell gormod na dim," oedd sylw cwta yr Ymennydd Mawr.

Eto, medrai weld y copaon yn wyn a thros begwn yr Wyddfa 'roedd llewyrch pinc gwanwyn cynnar yn y ffurfafen.