Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llewyrchu

llewyrchu

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Goleuddydd oedd yn llewyrchu yng ngolau'r haul, yn echblyg a greddfol ei natur.

Y widdon wen ydyw'r lloer-fam, sy'n llewyrchu yn y nos; hi ydyw'r fam fewnblyg, ddiwylliadol, a'i merch, Olwen - y lloer-ferch - fel ymwybyddiaeth fewnol.

Hefyd cwpan i ddal blodau, o wydr gwyn fel llaeth, oedd yn llewyrchu mewn amryw liwiau, fel tu mewn i gragen, pan fyddai goleu yn disgleirio arni.

Gallai'r bechgyn, o'u cuddfan, weld bod y golau yn llewyrchu ar y garreg y buont hwy yn neidio arni.