Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llewyrchus

llewyrchus

Deallwn i wyl Seilo gael cyfarfod y prynhawn i'r plant, eitha' llewyrchus ond braidd yn denau mewn cynulleidfa a chystadlu oedd cyfarfod yr hwyr.

Dywedir bod Edward Vaughan yn ormod o ddyn i basio barn ar gaeau ei gymdogion llai llewyrchus.

Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Syr David Rowe-Beddoe: Mae twf y gwasanaethau ariannol ac e-fasnach yn hanfodol er mwyn gwneud Cymru'n fwy llewyrchus.

Cofadail yw safle Dorothea bellach i ddiwydiant llechi a fu unwaith yn llewyrchus, cofadail ddigon arswydus sy'n anesmwytho dyn ac yn gwneud iddo ryfeddu ar yr un pryd.

Wrth edrych ar ei byd masnachol, mae rhywun yn gallu cael darlun o natur cymdeithas LA Awgryma clefyd y 'coupons' di-ri am rhyw sentan neu ddwy i ffwrdd oddi ar fwyd, nad yw bywyd yr Americanwr cyffredin yn fêl i gyd, er waetha' delwedd y teulu bach llewyrchus.

Y mae dyn yn rhydd i chwalu cymdeithas; y mae ganddo hefyd y gallu, mewn cyd- weithrediad â'i gyd-ddynion, i lunio amodau cymdeithas glos a llewyrchus.

Mae'r ddwy bennod gyntaf yn egluro'r newidiadau economaidd, cymdeithasol a thechnegol - lawn bwysiced â dyfodiad teledu lloeren oedd yn gwneud gwasg Gymreig yn bosib, a bywoliaeth fel newyddiadurwr yn barchus os nad llewyrchus (efallai mai fel arall yn union mae hi heddiw).

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.

Yn hen borthladd llewyrchus y dyddiau a fu, roedd mwy o deimlad prifddinas ryngwladol a rhythmau masnachol i'w clywed yn rhygnu'r lori%au a llusgo swnllyd y trêns.

Roedd hyn hefyd yn thema amlwg yng ngwaith BBC Cymru yn ystod y flwyddyn wrth i'w dimau cynhyrchu ddenu'r nifer mwyaf erioed o gomisiynau gan rwydweithiau radio a theledu'r BBC. Mae'r gostyngiad ymddangosiadol mewn cynyrchiadau rhwydwaith yn deillio o amseru cyflwyno'r cynyrchiadau a dylai'r flwyddyn nesaf fod yn un llewyrchus iawn.

Fel ail reswm cyffredinol dywedir bod y cyfnod llewyrchus yma'n deillio o'r datblygiadau yn ein gwybodaeth am weithgarwch yr economi: fod syniadau Keynes, a'r datblygiadau mewn polisi%au a adeiladwyd ar y seiliau damcaniaethol hynny wedi galluogi'r Llywodraeth i gadw'r economi ar lwybr cul, heb ormod o chwyddiant na thyfiant.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Wedyn, mae'r gwerthiannau o ddiddordeb; os yw'r gwerthiannau'n cynyddu o un flwyddyn i'r llall, y casgliad rhesymol a wneir yw bod y busnes yn llewyrchus.

Hon oedd un o'r siafftiau mwyaf llewyrchus ar droad y ganrif ac roedd agoriad iddi o'r tir hefyd yn rhywle yn y caeau dan Henllys Hall.

Y mae hi eto o dan ei choron yn ei hawddgarwch arferol, ac yn ymddangos yn hapus ddiogel rhwng rhengoedd tal gosgordd unffurf y 'rose bay willow herb na fu erioed yn fwy llewyrchus nag yw eleni.

d) dod a statws y Gymraeg yng Nghymru i gydymffurfio a statws ieithoedd llewyrchus eraill yn Ewrop nad ydynt yn brif iaith y wladwriaeth, yn hytrach na bod y Gymraeg yn aros yn answyddogol ynghyd ag ieithoedd mwy difreinteidig na hi.

bu'r ail gynhadledd mor llewyrchus â'r gynhadledd gyntaf a phan ddychwelodd henry richard o ffrainc cynhaliwyd nifer of gyfarfodydd cyhoeddus drwy brydain, a'r rhai mwyaf nodedig ohonynt ym manceinion a birmingham, i ategu a gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed ym mharis.

Mae'r Rwsiaid bellach yn ymwybodol iawn fod diffyg nwyddau yn y wlad o'i chymharu a gwledydd llewyrchus y gorllewin, ac o'r herwydd mae eu hagwedd tuag at ymwelwyr tramor yn atgoffa dyn weithiau o'r 'Cargo cults' ers talwm.