Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleygwyr

lleygwyr

Llwyddodd Ferrar hefyd i dynnu lleygwyr amlwg yn ei ben.

Urdd oedd hon a roes sylw arbennig i addysg grefyddol ymhlith lleygwyr er mwyn cryfhau defosiwn a phietistiaeth yn eu mysg yn ôl dulliau y devotio moderna (defosiwn modern) fel y'i gelwid.

Anllythrennog hollol, fel y buasid yn tybio, yn eu mamiaith ac yn Lladin, oedd mwyafrif llethol lleygwyr y cyfnod.

Ar hyd y bymthegfed ganrif gwelir yn amlwg gynnydd mawr ymhob gwlad yn rhif y rhai a ddysgasai ddarllen: lleygwyr yn ogystal â chlerigwyr, gwyr a gwragedd fel ei gilydd.

Ar yr un pryd, fe welir fod Ferrar yn ceisio adfeddiannu eiddo a aeth i ddwylo lleygwyr a'r eglwys wedi cael ei thlodi yn ei dyb ef oherwydd hynny.

A gwaeth na hynny yng ngolwg y llywodraeth oedd fod swyddogion y dref yn cymryd rhan yn y trafodaethau ac yr oedd y Frenhines yn bendant iawn na ddylid annog lleygwyr i fusnesu mewn materion eglwysig.

Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.

Casglodd ynghyd nifer o weinidogion o'r enwadau gwahanol, gan gynnwys Caledfryn a Christmas Evans, yn ogystal â Hughes a lleygwyr eraill er mwyn penderfynu ar yr hyn y dylid ei wneud.

Yr unig ffordd i gyfleu ystyr y Beibl i'r lleygwyr oedd eu cael i wrando ac i edrych.