Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llif

llif

Er mwyn hwyluso trefniadau a gostwng llif y traffig, trefnir bysiau gwasanaeth gwennol a fydd yn teithio, um bob tua pum munud, rhwng y ddwy ysgol a'r maes.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

Mewn un man yn unig roedd angen rhydio nant a phan fyddai llif rhaid oedd stopio'r cyfan.

Dengys log manwl y capten y gwaith a gyflawnid o ddydd i ddydd ar ei bwrdd, a'r nwyddau a'r offer a roddwyd yn yr howld, yn cynnwys rhaffau, blociau, meini llif a sialc, a gyfnewidid am gynnyrch brodorion gwledydd tramor megis Mao%riaid Seland Newydd.

Sylwer fod y graig Trias yma yn cynnwys darnau mawr o gerrig sy'n profi fod llif mawr o ddþr wedi gwthio'r cerrig yn sydyn ar draws yr anialwch sych i lawr ochr serth math o wadi.

dichon y byddai 'r llif wedi ailgydio ynddi oni bai fod cangen braff a thrwchus o helygen yn tyfu hyd at ganol yr afon, hanner medr uwchben y dŵr ^ r, a brigau deiliog yn disgyn oddi arni i 'r afon yn grafanc am long ffred druan.

O fwd moroedd Bermiwda, ys dywed Euros Bowen yn ei gerdd iddynt, mae'r leptocephalii yn esgor ac esgyn i wyneb y tonnau ac yn cychwyn ar drugaredd Llif y Gwlff.

Fodd bynnag, sylwyd gyda'r ddau hyn nad oedd hynny'n digwydd, a'r rhesymeg tu ôl i hynny oedd fod yr haen o lwch llif yn cadw gwres yr haul rhag treiddio i mewn i'r ddaear a'i chynhesu a symbylu bacteria i gyflawni eu gwaith o gynhyrchu yr elfen nitrad sy'n gyfrifol am greu swm o dyfiant.

Roedd pêl-droed Brazil yn codi rhywun i'r entrychion -- ....nid jest chwarae oedd yma ond celfyddyd yn rhoi mynegiant i'r ysbryd dynol ar ei orau, yn llawn llif dychymyg, creadigrwydd a llawenydd.

Bydd yn noson hanesyddol heno gyda Morgannwg yn wynebu Essex yn y cynghrair un-dydd dan y llif-oleuadau.

maent hwythau hefyd wedi eu herydu, wrth iddynt gael eu taflu gyda llif y dŵr.

Boddwyd nifer helaeth o ysgolion Ceredigion gan y llif hwn, a'r athrawon o ganlyniad yn methu cymathu cymaint o blant di-Gymraeg - ac yn wir, wrth geisio, yn aml iawn (a hynny er mawr ofid iddynt) yn esgeuluso'r Cymry.

Yn ôl Alun Jones, Cadeirydd y pwyllgor cae a phabell, trafnidiaeth a pharcio, y mae hyn eto yn gam i hwyluso llif y traffig i Glynllifon gan mai ond un fynedfa sydd i'r maes.

Bydd cynrychiolwyr Clwb Pêl-droed Cwmbran yn cyfarfod swyddogion y Cwpan Cenedlaethol prynhawn yma i esbonio cyflwr y llif-oleuadau.

Gyda hyn cewch glywed llif ei huodledd yn arafu ac ansicrwydd yn dod i'w lais.

Llif dŵr daear, sef dŵr yn symud drwy'r graig, yw'r ffordd arafaf i ddŵr symud - gall gymryd diwrnodau neu hyd yn oed wythnosau i gyrraedd yr afon.

Daeth llif o feddiant o gyfeiriad y blaenwyr, ac ar ôl symudiad chwim, aeth y bêl i ddwylo'r gwibiwr J.

Rhag ofn i rai ohonoch feddwl am ddefnyddio llwch llif, ni fuasai'n syniad newydd, cofiaf y syniad o'i ddefnyddio yn orchudd rhwng planhigion yn tyfu gael ei weithredu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Yna, wrth i gyfleoedd amlhau daeth llif o actorion ifainc o golegau gyda nifer ohonyn nhw o'r farn fod addysg yn well cymhwyster na phrofiad.

Ar yr un pryd, ceisiwyd atal llif y twyni trwy'u hamdoi a changhennau coed bythwyrdd, a'u plannu â moresg a thyweirch o laswellt ochr-lôn.

Gall fynd fel llif uniongyrchol, gan symud drwy'r ceudod awyr yn y pridd.

Oherwydd hynny yr oedd yn farwaidd a sych, a rhaid oedd dyfod llif y mudiad rhamantus i dorri'r argaeau.

(Llif cwynion HEULWEN yn tawelu i fwmian cwynfanllyd wrth i LIWSI ei gadael a symud at WALI sy'n cysgu o flaen y teledu.