Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llinynnau

llinynnau

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.

Ymhell cyn cyrraedd y gwaelod 'roedd llinynnau'r coesau'n tynnu a gwasgu, a blaen bysedd traed yn swp yn nhu blaen ein sandalau.

O dan 'cynnwys' sonia am y llinynnau sy'n clymu dynion - (a) iaith gyffredin, (b) tir cyffredin, (c) diwylliant cyffredin, a (ch) bywyd economaidd cyffredin.

Yn fuan wedyn cafodd Dik Siw y contract i adeiladu Canolfan Chwaraeon helaeth ar bwys y stesion Dan, a chil-dwrn go dda i Ynot am dynnu llinynnau.