Llaeth o'r bwced Dull o roi llith i'r llo pan nad yw'r llo yn sugno'i fam.
Bellach, dan ddylanwad Genefa, y mae wedi cefnu ar ddulliau rhydd Luther a Tyndale a welir yn Kynniver llith a ban ac amcanu at gyfieithu 'air yn ei gilydd' i'r diben, fel yr eglurodd mewn nodiad Saesneg yn y Llyfr Gweddi, 'i air Duw ei hun aros heb ei lygru na'i dreisio o genhedlaeth i genhedlaeth'.
Y mae'n gwestiwn, a dweud y lleiaf, a oedd pawb yn darllen y stori hon fel llith rybuddiol.
Ofn colli'u llith nos Ferchar ma'r bygars.
Ond cyn i chi feddwl mai llith wrthgomiwnyddol yw hwn, prysuraf i ychwanegu rhai pethau eraill.
Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan Mrs Ruth Owen, gyda Mrs Margaret Clegg yn darllen y llith, a Mrs Pat Wright yn arwain y gweddiau.
Cynhaliwyd gwasanaeth Naw Llith a Charolau yn Eglwys y Plwyf ac yn Eglwys Crist o bobtu'r Nadolig.
Nid amcan y llith hon yw canu eu clodydd na disgrifio eu hamrywiol gyfraniadau i fywyd Cymru.
Yn y ddwy adran gyntaf o'r llith hon fy mwriad yw chwilio ym mha ystyr yr oedd y gair yn gymwys.
A thystiolaeth sicrach i hyn fyddai gweithiau blynyddoedd cynnar William Salesbury, yn enwedig Kynniver llith a ban.