Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lliwiau

lliwiau

Lliwiau ffenest siop oedd lliw y cynhaeaf hwnnw, a gwneud y gorau ohono wnaeth yr adar.

Hyd at, efallai, os… Mae'r sefyllfa yn gofyn fod pobl yn gallu gweld gwahaniaethau mwy cynnil rhwng lliwiau gwleidyddol erbyn hyn na du a gwyn yn unig.

Mae hynny mor ffôl â phetaem yn edrych ar seithliw'r enfys ar ôl i'r prism eu gwahanu a chyhoeddi mai'r lliw hanfodol, gwreiddyn y lliwiau eraill, yw'r lliw glas.

Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.

Yr unig bryd y gwelwn ni'r lliwiau melyn yma yn y dail yw cyfnod y cwympiad.

Tra mae Dick Chappell yn gynnil yn ei ddefnydd o ofod a lliwiau, fel petai am dynnu popeth i mewn i fyd bach agos ato, mae lluniau'r artist hwn yn rhoi argraff gyffredinol o ehangder.

Dim ond distawrwydd y coed pin, sisial y nentydd bychain, disgleirdeb yr eira ac ol troed anifeiliaid bach ynddo, lliwiau cyfoethog yr haul a godidowgrwydd yr olygfa.

Weithiau wrth iddo godi a machlud, mae'r haul yn llenwi'r awyr a lliwiau dramatig.

Arnynt, roedd bylbiau bob lliwiau, miloedd ar filoedd ohonynt.

Ceir llawer mathau o ffurfiau a lliwiau ar grisialau, ac y mae rhai ohonynt mor gain a pherffaith fel y gellid meddwl iddynt gael eu gweithio gan grefftwyr cain.

Mae'r lliwiau y mae'n eu defnyddio yn Beddgelert yr yr Hydref yn gyfoethog o goch a brown a melyn - lliwiau'r Hydref.

Teulu Lliwgar Mae lliwiau llachar yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o'r Pincod.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Mae hynny wrth fodd y coed, gan mai prif bwrpas lliwiau llachar llawer o'r ffrwythau yw denu adar i'w bwyta, a chludo'r hadau i bob cyfeiriad.

Am ryw reswm meddyliodd yn sydyn am Ellis Puw, a theimlodd ar y funud ei fod yn nes at ei was yn ei glos ffustian a'i grys gwlân nag yr oedd at y boneddigion hyn yn chwyrli%o o'i gwmpas yn eu sidanau a'u melfed a'u lliwiau llachar, a'u dwndrio a'u chwerthin.

Mae'r lliwiau'n rhan o gyfansoddiad gofodol y llun, glas clir yr awyr a melyn y das yn gwrthgyferbynnu â gwyrdd tywyll y blaendir.

Wrth deithio i Gynhadledd Merched y Wawr yn yr Hydref, mae'r gwahaniaeth rhwng coedydd bythwyrdd duon y Ganllwyd, a lliwiau'r coed llydan eu dail yng ngoedydd Dolgellau yn syfrdanol hollol.

Clod i Ti am y tir a'r môr; am ffrwythlonder pridd, amrywiaeth blodau, eu lliwiau a'u persawr; am gadernid coed a golud bywyd y fforestydd.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

Defnyddir lliwiau a dulliau'r impresionistiaid i gyfleu gofod ac ansawdd.

Roedd chwaraewyr Cymru, yn eu lliwiau anghyfarwydd, yn ymwybodol y byddai'r gêm brynhawn Sadwrn yn gyfle i hawlio lle yn y tîm i wynebu De Affrica ddydd Sul nesaf.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Lliwiau haf yng Nglynllifon Yntau'r dewr tu hwnt i'r don.

Mae ffurf a lliwiau hynod y blodyn yn nodweddiadol o'r teulu, er bod gwahaniaethau rhwng blodau y gwahanol rywogaethau.

Ac os mai syfrdan yw lliwiau'r hydref yng Nghymru, beth am y syfrdan o weld y coedwigoedd llydan ddail yn nhaleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America.

Synnwyd staff yr Antur gan eu gallu i greu basgedi bendigedig o bob siâp a maint yn llawn o flodau sychion, a hynny mewn lliwiau sy'n asio'n berffaith.

Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.

Dyheai am weld lliwiau a ffurfiau yn fwy llachar ac eglur.

Mae menyn (heb unrhyw hormonau na chemegau ar hyn o bryd) yn llawer iachach na margarin sy'n fyrdd o gemegau a lliwiau gwenwynig.

Gobeithio y ca i ddigon o amser i ddarllen y Testament Newydd 'to." Ar Noson y Groglith gofiadwy honno agorais ei Feibl a gweld fod y set rubannau yn lliwiau gwyliau'r eglwysi yn nodi'r penodau a'r pennawd "Cariad Paul at y Thesaloniaid.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Doedd o fawr o le er fod lliwiau ei wrychoedd a'i goedydd yn rhai na welodd o'r blaen ac roedd amryw o gaeau bychain o gwmpas a chul-lwybrau dyfnion yn ymestyn i'r pellter.

Ond mentro mae'r bobl - y Leaf Peepers yn eu ceir, yn dilyn y lliwiau gogoneddus.

Y cyfnewidiad amlwg yw lliwiau'r hydref yn y goedwig.