Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llodrau

llodrau

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Apolo bach oedd Marc, mewn swetar ddu a llodrau denim llydain.

'Siarad yn gall, ddyn, neu cau dy geg,' meddai Vatilan, yn codi pen-glin rhwng coesau Gemp ac yn torri cawg Kemper llun dyn llodrau llydan am e ben.

Yn lle ei siwt gragen amlbwrpas, gwisgai rywfath o grysbas lledr cryf a llodrau gwlanen pigog.