Wrth i'r silt waddodi a llenwi'r cilfachau ac yna wrth i dyfiant organig a malurion gau am ffurfiad y llongddrylliad bydd yn cael ei selio a'i hamddiffyn rhag chwalfa bellach.
Er y gwelwyd y gellir cael canlyniadau buddiol pan ddefnyddir ychydig o ffrwydron gan arbenigwyr nid peth doeth yw gwneud defnydd eang o'r dechneg hon hyd oni ddee%llir mwy am natur ffurfiad llongddrylliad.
Dyry ecoleg a bioleg môr wybodaeth inni am y 'matrics biolegol' sy'n diogelu y llongddrylliad, am gynnwys yr haen galed organig a'r effaith a gaiff creaduriaid y môr ar safle.
Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.
O fewn dwy flynedd ymyrrwyd â llongddrylliad arall o bwysigrwydd hanesyddol cyn y medrwyd gwneud arolwg.
Yn y sefyllfa gymysglyd hon rhoddwyd hawl i ddim llai na thri grŵp o nofwyr chwilio am y llongddrylliad ac o ganlyniad gweithiai gwahanol grwpiau ar wahanol rannau o'r safle.
Os nad oes gwybodaeth am safle'r llongddrylliad fel system ar gael, gall cloddio ddinistrio mwy o dystiolaeth nag y gall ei ddatgelu.
Disgwylir i archaeolegwyr môr feddu gwybodaeth dda am ddaeareg môr a gwaddodoleg gan fod y gwyddorau hyn yn rhoi inni'r technegau ar gyfer mesur llwyth safle ac i ddisgrifio sut y mae'r llongddrylliad yn treiddio i mewn i wely'r môr drwy sgyriadau ac effeithiau ymsefydlogi eraill.
Mae'n well gan yr awdur ddiffinio llongddrylliad hanesyddol fel llongddrylliad sy'n cynnwys gwybodaeth o natur hanesyddol na ellir ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.
Disgrifiwyd y broses hon gan Diole\, a bwysleisiodd fod llongddrylliad yn y cyflwr hwn yn fregus iawn ac y gall ymyrraeth ag unrhyw ran o'r safle arwain at broses o fraenu pellach.
rhaid disgrifio a mesur yn fanwl-gywir y berthynas achosol fwyaf dibynadwy ('the best established causal relationship') rhwng rhannau'r llongddrylliad.
'Capsiwl amser' yw llongddrylliad gyda stôr o wybodaeth hanesyddol dan sêl ynddo.
Bu drwy 'gyfnewidiad morol', proses o fraenu nad yw'n gadael dim ar ôl o'r llongddrylliad ond pentwr sefydlog a elwir yn 'ffurfiad llongddrylliad'.
Awgryma hyn oll bod angen gwneud gwaith arbrofol hirfaith a drudfawr i'r prosesau sydd ar waith ar safle llongddrylliad.