Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llonydd

llonydd

Bysedd a'i rhybuddai i fod yn llonydd ac i gofio bod llygaid y Gwylwyr ym mhobman.

Ac o ddechrau mis Awst, aeth trafnidiaeth Llundain yn llonydd pan ddilynodd y gweithwyr arweiniad Ben Tillett.

Yna, ymhen rhyw ugain llath, lledodd y sianel yn ddwr llonydd, dwfn o flaen ceg yr ogof.

Ym marn Kath a Stacey 'roedd Hywel eisiau i Stacey fynd i ffwrdd i'r coleg er mwyn cael llonydd i ddatblygu ei berthynas gyda Rachel.

"Ma gyno fo ishio llonydd i gal 'i ginio fel chitha y dwrnod o'r blaen!" oedd yr ateb a gafodd.

Sam oedd "Handi-man" y swyddfa, yn glanhau'r lle (fwy neu lai), yn mynd ar negesau, ac - yn bennaf dim - yn gofalu nad oedd yr un ymwelydd yn ymyrraeth a mi pan oedd arnaf eisiau llonydd i ysgrifennu.

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Cwffio oedd y bois hynny wrth gwrs am eu bod wrth eu boddau yn cwffio, a sbaddu eu cefndyr ac ati, er mwyn cael llonydd i escploitio eu gwerin dlawd yn y mynyddoedd gwlyb ac oer.

"Mae o'n lle hwylus dros ben i ni gan ei fod o'n lle tawel sy'n rhoi llonydd i ni fynd ymlaen efo'n gwaith."

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Gadael llonydd i nhad yn y r ardd.

O safbwynt personol ei ddewis fyddai bod gartref ymysg yr anifeiliaid a chael llonydd i fyw y math o fywyd a ddewisodd.

Yna edrychais ar gorff llanc dewr a oedd yn llonydd.

Sgwn i faint fydd hi cyn y bydd y Cymry hynny a gwynai gymaint fod y Wasg Brydeinig yn anwybyddu Cymru yn gofyn iddi wneud yr un peth eto a gadael llonydd inni.

Ond yn lle hynny arhosais yn llonydd, heb ei weld o gwbl mewn ffordd, dim ond yr awgrym o ymateb ar ei wyneb.

Mi ddaru Defi John a Jim ddechra' chwara'n wirion ymhen dipyn, ar ôl blino bod yn llonydd - a thaflu cregyn bach aton ni a ninna wedi cau'n llygaid, smalio cysgu.

"Y peth cynta weles i oedd cysgod dwy goes yn hongian mor llonydd â phendil cloc wedi stopo.

Llonydd hefyd y peiriant siaffo, heb na gwair na gwellt nac eithin mân i'w falu.

Fel ysgolhaig yn trafod pynciau hanesyddol yr ysgrifennodd Llynnoedd Llonydd.

Caled yw hi, caled yw hi." Gorweddodd y cardotyn yn llonydd ar y gwellt gan geisio gwneud rhyw fath o ben a chynffon o hyn i gyd.

Roedd fy nghoesau'n brifo'n ofnadwy ar ol ail afael yn y sgio, ac yn crynu bob tro y safwn yn llonydd.

Roedd Ifan wedi disgrifio'r tywydd garw; Fe ddarluniai hi y dyddiau llonydd tawel.

"Ma gin i ishio llonydd hefo nghinio." Trodd y dyn canlyn ceffyl o'r swyddfa'n siomedig a mynd yn ôl at ei waith wedi'r derbyniad swta yma.

Diwrnod llonydd braf a Del newydd fod am brofion yn yr ysbyty.

'Dyna lle'r oedd o'n gorwedd yn llonydd, llonydd, yn stiff fel procer ar ochr y ffordd yn waed i gyd.

Roedd hi wedi dweud wrtho am adael llonydd i hwnna heddi - byddai'r bachgen yn ddigon amharod i fynd nol i Benderin fel yr oedd hi!

Os oedd rhai Piwritaniaid a Phabyddion yn gorfod dioddef ar brydiau yr oedd eraill yn mwynhau eithaf llonydd.

Hyd yn hyn bu'r afon yn llamu dros y creigiau geirwon ond cyn cyrraedd y bont nesaf a ffin y Warchodfa fe welwch bwll tyfn, llonydd yn y mawndir.

Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y Nant yn cael llonydd, a'r dynion wedi cael testun newydd, sef fod cyfarfod gweddi i fod yn Cwt y Brake awr ginio.

Fel ffuredau mae rhai o'n sylwebyddion praffaf wedi gafael yn dynn yng ngeiriau Elin H G Jones heb fwriad i'w gadael yn llonydd.

O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.

Ni wnâi dim o'r moddion arferol y tro i'w chadw yn llonydd.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.

'Roedd hi'n edrych felly pan welais i hi, ond wnes i ddim ymyrryd, roedd yn well gen i adael llonydd iddyn 'nhw."

Pan âi â Mali i'r parc am dro yn y bygi ar fore Sadwrn, er mwyn i Mam gael llonydd i lanhau, byddai'n gwneud ffrindiau â phob ci a welai.

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Yr unig le lle gallai neb gael llonydd a heddwch oddi wrth yr ymgecru ydoedd yn y Lotments.

Gwelsom amryw o lynnoedd bychain llonydd, gyda niwl y bore'n dechrau codi oddi arnynt.

Cafodd ei demtio i orwedd yn ôl yn llonydd, a pheidio â gwneud dim ond gadael i'w gorff suddo i waelod y môr.

Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.

Yr oedd y cart yn llonydd a'i siafftiau'n tyllu i bridd gwelltog ei lawr.

Clywai afon Llynfi yn y glyn a gwelai wartheg y Teulu'n pori'n Llonydd ar ei glannau.

Dyna'r creaduriaid llonydd yn cnoi'r cil yn dawel tra byddwch yn datod y cadwyni o'u gyddfau.

(Gyda llaw, adleisiau o Iddew Malta a Dr Faustus a Tambourlaine (Marlowe).) 'Bei cawn i berfedd y ddaear im cist am coffr, mi gysgwn yn llonydd a gwyn fyddai fy myd'.

Roedd yn well inni ildio peth o'n nwyddau a chael llonydd na cheisio ymladd yn erbyn byddin rhy niferus ac yn y diwedd golli ein holl eiddo a cholli ein bywydau yn ogystal.

yn fwy bygythiol nag arfer am ei fod yn sefyll mor llonydd a'r golau egwan yn sgleinio mor oeraidd ar fetel ei ysgwyddau llydan.

Ar ôl i bawb fynd roedd yr ystad yn dawel ac yn llonydd.

Dweud yn blaen wrthi am wneud yr hyn a fynnai ac am adael llonydd i mi am nad oes awydd stŵr arnaf.

'Duw anweledig, Duw bendigedig, meddwl tragwyddol, Trindod fendigedig anfeidrol, llawenydd anhraethol, Meistr hollalluog, undeb llonydd, anfesurol tragwyddol' a geir.

Safai'n llonydd yn ei gwrcwd pan ddechreuai'r bowliwr ar ei daith, gan wylio'r bêl yn ofalus a'i dal yn ddiogel.