Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lluchio

lluchio

y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.

Ac wedyn bydd yn lluchio grant yn awr ac yn y man (tan y penderfynith o beidio - a mae ganddo bob hawl i wneud hynny) i gadw'r defaid i droi gwellt yn wlân a chachu, a chadw gwên ar wyneb y gwladwr hawddgar.

Ymlaen wedyn trwy filltiroedd sgwâr o gaeau siwgwr a'r dail gwyrdd yn disgleirio efo galwyni o ddŵr yn cael eu lluchio drostynt trwy bibau anferth o Lyn Victoria.

Wyt ti'n cofio fel y bydden ni'n lluchio llinella o gynganeddion at ein gilydd wrth fynd adra o'r ysgol, fel mae plant heddiw yn lluchio pêl?

Na, na, mae'n ddrwg gen i,' a sŵn celfi yn cael eu lluchio'n erbyn y palis rhwng y ddau dŷ.

Wedi'i glywed yn datgan ...nid y ffordd i ennill brwydrau egwyddorion yw lluchio arwerthwyr a cherrig a thywyrch.

Fe gasglodd rawn gwenwynig a'u lluchio i'r crochan.

Fe'i gwelaf hi'n awr, dynes fawr, afrosgo, ei ffrog ddu wedi'i lluchio'n fler amdani o dan y brat rhosynnau dilewys a groesai ei bronnau hael.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

Gydag un ohonynt yn ei breichiau, un arall mewn siôl ar ei chefn, a'r llall yn gafael wrth odre ei sgert aeth i'w lluchio'i hun i'r gamlas oedd yng nghefn un o'r strydoedd.

Yna, byddai'n lluchio cynfasau a dillad isa' a phethau felly i'r llyn a rhoi powdwr golchi yn y dŵr, fel bydd y merched 'ma 'te, a gweiddi ar Eliasar y ci o'r tŷ.' 'Rwan 'roedd eisiau profi callineb Eliasar trwy ddweud bod y buchod ymhell i ffwrdd.

Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.

A thrwy hynny yn mynnu lluchio pob math o wenwyn i grochan moesol cymdeithas.

Ne' beidio â lluchio cerrig o gwbl.' 'Wedi dwad â'r hwch at y bae 'rydw i, Miss Willias.' 'Be, ganol nos?' 'Roedd hi 'di mynd yn llwydnos pan sylweddolis i 'i bod hi'n dechra' anesmwytho.' ''Wela' i.

Ar ol pystachu stwffio drwy rhyw le cyfyng mae'r ogof yn agor allan ychydig ac mae dwr y mor yn llenwi'r gwaelod, 'n ol a mlaen ac yn lluchio'r trochion i fyny weithiau.