Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lluniodd

lluniodd

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

Lluniodd draethawd eithriadol braff yn dwyn y pennawd '...' , ynghyd â chyfres o ysgrifau gwybodus a threiddgar ar fframwaith cymdeithasol ac economaidd yr oes yn y Morning Advertiser.

Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhrâg, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen.

Lluniodd aelodau'r gweithdai hyn argymhellion a gyhoeddwyd yn y llyfryn Iaith Ifanc ym mis Gorffennaf.

Pan fu farw ei fab a'i wraig ymhen pythefnos i'w gilydd, lluniodd y pennill hwn: Beth yw siomiant?

Serch hynny, nid beirniad ifanc carlamus a'i lluniodd, ac y mae'n bwysig yn natblygiad y beirniad aeddfed.

Yr oedd cyflwyno emynau ac emynwyr Cymraeg i'r Saeson yn genhadaeth ganddo: lluniodd, ymlith pethau eraill, gyfres o ysgrifau ar emynwyr Cymru i Sunday at Home, a'u cyhoeddi ynghyd wedyn dan y teitl Sweet Singers of Wales.

Awgrymodd rhywun mai Waldo a'i lluniodd ond ni chefais gadarnhad o hynny chwaith.

Mewn gwirionedd, lluniodd awdl gywrain ryfeddol, un o'r awdlau buddugol cywreiniaf erioed, ac awdl glasurol a oedd yn efelychu patrymau Beirdd yr Uchelwyr.

Thomas Charles a'u lluniodd a bu Thomas Jones, Dinbych, yn bwrw llygad beirniadol arnynt cyn eu hargraffu.

Os edrychir ar astudiaethau Idris Foster neu Proinsias Mac Cana ar y chwedl, neu ar lyfr Kenneth Jackson ar The International Popular Tale and Early Welsh Tradition, fe geir llawer o ddadansoddiadau motifaidd, yn olrhain y themâu ystoriol sydd yn y gwaith, ac yn gwerthfawrogi dawn dweud y cyfarwydd(iaid) a'i lluniodd a'i goethi.

Bu ganddo Gwrs Arbennig ar yr emyn am flynyddoedd, a lluniodd ysgrifau cyfoethog ar emynwyr, ar Williams, ar Benjamin Francis, ar rai o emynwyr Môn ac eraill.