Fel yr oedd e'n llusgo ei draed i lawr y stryd teimlodd fel petai e'n cerdded ar y cymylau.
Yr oedd yn ddigon call i beidio â'm llusgo pan oeddwn yn anymwybodol." 'A dyma chi'n cyrraedd, o'r diwedd, at waelod grisiau'r feranda?" "Do, ac yr oeddwn yn falch iawn o deimlo'r pren dan fy nwylo," meddai'r tad.
Yn sicr, ni ellid dweud fod y nofel hon yn llusgo gan fod tempo y digwydd yn gyflym.
Gellwch newid hyd neu ogwydd y llinell trwy roi'r saeth ar un o'r bachau a llusgo (sef symud y llygoden a'r botwm wedi ei bwyso).
Torri a Gludo Dewiswch y geiriau go iawn trwy osod y cyrchwr o'u blaen a llusgo ar draws y geiriau.
Gellwch symud y llinell o gwmpas ar y sgrîn trwy roi'r saeth ar y llinell (nid ar y bachau) a llusgo.
Cwilt pobol ddiog yw'r cwilt erbyn hyn a'r clytiau o las Gwanwyn a melyn Haf ac aur Hydref wedi mynd yn fawr ac yn ychydig, a'r tractorau a'u gwehyddion a'u casglwyr silwair a'u combeiniau yn llusgo hyd yr erwau agored fel chwilod mawr, boliog yn ysu'r cnydau.
Fe fyddai gweddill y trafod â mi fy hun ac â newyddiadurwyr eraill yn digwydd mewn dinas lle roedd mil o blant yn marw bob wythnos, lle'r oedd plant deg oed yn llusgo gynnau rhydlyd drwy'r llwch am eu bod yn rhy drwm i'w cario.
Yr oedd golwg lewyrchus ar Lundain a'r canolbarth a siroedd de-ddwyrain Lloegr tra oedd y drefedigaeth Gymreig yn llusgo byw dan amrywiaeth o enwau a'i galwai yn bopeth ond yn famwlad cenedl.
Enlli yn cario un o arwyddion Owens Estate Agents, ac Enlli yn cael ei llusgo i fan yr heddlu.
Margaret yn fy llusgo i weld arbenigwr yn yr Amwythig.
Wnes i ddim llusgo 'nhraed pan adewais eu tŷ.
Llusgo fi i'r gwyll neon tu ôl i'r caffe a 'nghicio i'n wrymie a chleisie o 'nghorun i'n sawdl, 'y nhrwyn i'n pistyllu gwaed a'n llygaid i fel wystrys.
Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.
Pan aeth i dacluso'i ystafell fore drannoeth ar ôl ei noson gyntaf cafodd fraw o weld bod y llieiniau a roesai iddo yn farciau duon i gyd, fel pe bai rhywun wedi eu llusgo trwy huddygl.
Yn hen borthladd llewyrchus y dyddiau a fu, roedd mwy o deimlad prifddinas ryngwladol a rhythmau masnachol i'w clywed yn rhygnu'r lori%au a llusgo swnllyd y trêns.
Roedd gwawn lwyd yn araf gripian trwy frig y nos a chyn bo hir byddai wedi llusgo'r du i'w ganlyn.
Tasg go wahanol yw llusgo dan amgylchiadau felly i lusgo ar draws gwlad.
Mae yna ryw ychydig o geffylau trymach yn cael eu defnyddio ynglŷn â choedwigaeth yn llusgo'r coed wedi i'r rheini gael eu cwympo a'u torri.
Yn y prynhawn, dewis y ffordd hawdd a dewraf i fyny'r llethrau, sef mewn car cêbl, a'i wifrau syndod o gryf yn llusgo'r wynebau chwilfrydig a'r boliau jeli i'r entrychion.
Ond llusgo braidd ar ol mae'r gwres a'r oerni, a diwedd Gorffennaf yw'r amser cynhesaf, a diwedd Ionawr yw'r amser oeraf.
Teimlai fod yr amser yn llusgo, a bod oriau wedi mynd heibio er iddo adael ei gyfeillion ar fin y dŵr.
Mi lwga i - dyna 'dach chi isio, mi wn i'n iawn.' Dyma fi'n croesi'r ffordd a dechrau llusgo cerdded wrth ei ochr.
"rydw i wedi eu pasio nhw droeon ar fy nheithiau yma ac acw ac wedi diolch bob tro nad y fi fu raid llusgo'r fath lwyth o gerrig i fyny i'r rhostir.
Y tro y cafodd ei chipio gan sipsiwn, y tro y rhwystrodd geffyl gwyllt drwy gydio yn un o'r afwynau a chael ei llusgo am hanner milltir - roeddem yn eu credu fel efengyl.
Llusgo wnaeth y diwrnod, y bore fel oes, y pnawn fel tragwyddoldeb.
"Llithrodd hwnnw, a'm trôns, i ffwrdd wrth i Rex fy llusgo gerfydd fy jersi ar hyd y cae," atebodd ei dad.
'I be oedd arnat ti isio fy llusgo i i'r fath le?'
Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.
Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.
"Erbyn hyn yr oedd Rageur a Royal wedi anghofio'u hofn ac wedi deall os na fuasen nhw'n helpu Rex i'm llusgo i fyny'r grisiau, buasai'n rhaid iddyn nhw fy ngadael i farw yno tu allan i'r tŷ.
Os buoch chi mewn tipyn o rigol yn ddiweddar, fe fydd y ser yn eich llusgo allan gerfydd eich clustie'r wythnos hon.
Ond yna teimlais ddwylo dau o griw Talfan yn bachu yn fy ysgwyddau a'm llusgo oddi arno.
Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.
Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.
"W^n i ddim am faint o amser ddaru mi orwedd," meddai, "ond wedi i mi ddod ataf fy hun, teimlais geg Rex yn gafael yn fy ysgwydd." "Ceisio eich llusgo adref yr oedd o," atebodd Louis.
Roedd rhai hefyd â phlant ifanc iawn, wedi eu llusgo i'r orsaf heddlu yn ystod oriau mân y bore.
Huana, ei chwaer oedd yn gwarchod Owain Goch a Llywelyn gan eu llusgo o gaer i gaer dan orchymyn y Tywysog.