Ymhen ychydig wedyn aeth ei weinidog i weld y weddw er mwyn cael gwybod beth oedd hi am wneud a llwch ei gŵr.
Dim sôn am boteli, gwydrau brwnt, blychau llwch gorlawn, pentwr o hen bapurau newydd.
'Roedd llwch y ddinas yn gorchuddio'r cyfan.
Heol garegog, igam-ogam, yn llawn llwch a darnau mawr a bach o garreg dawdd.
Thema ymchwil Wolfgang Kra%tchmer a'i gyd-weithwyr yn Heidelberg a Donald Huffmann yn Arizona dros gyfnod o amser oedd astudio llwch rhyngserol gan dybio mai carbon fyddai'r elfen fwyaf cyffredin yn y llwch.
Nid trwy adael i'w tlysau hel llwch yng nghypyrddau'r Stiwt y mae anrhydeddu campau bechgyn yr ardal siawns!
Mae llwch blynyddoedd wedi caledu ar ymyl y sgertin yng nghartref y ddiweddar Mrs Hughes, nes ei fod 'fel edau baco' ('Cathod Mewn Ocsiwn').
Mae'n addas inni ein cyflwyno ein hunain, ein teulu, ein ffrindiau, ein hardal, a'n gwlad i'r Duw trugarog sy'n cofio mai llwch ydym ac yn ein cylchynu â'r gras a ddatguddiodd mor ysblennydd inni yn ei Fab, Iesu Grist, sydd yr un ddoe, heddiw ac am byth.
Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.
Ond yr oeddynt i weld Dad, ac yr oedd yn werth dioddef ceir-modur, a'r gwynt anhyfryd a'r llwch er mwyn hynny.
I mi yn yr oed hwnnw ac yn byw ger afonig na ellid gweld ei gwaelod oherwydd y llwch glo ynddi, yr oedd pegi yn un o'r menywod ffolaf a fu.
Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.
Ychwanegodd y pethau hyn o blith y llwch a'r baw yn storws Dafydd William yn ddirfawr at werth fy llyfrgell i.
Fe fyddai gweddill y trafod â mi fy hun ac â newyddiadurwyr eraill yn digwydd mewn dinas lle roedd mil o blant yn marw bob wythnos, lle'r oedd plant deg oed yn llusgo gynnau rhydlyd drwy'r llwch am eu bod yn rhy drwm i'w cario.
Roedd gan Dafydd William storws enfawr yn llawn i'r ymylon o lyfrau, a'r rheini'n blith drafflith ar draws ei gilydd ac yn llwch trostynt.
Yn awr ac eilwaith codai awel yn ddisymwth a chwythu llwch i'm llygaid, a rhaid oedd sefyll yn y fan a'r lle rhag of n i bwl sydyn o ddallineb fy nhywys dros y dibyn, gan fod y llwybr cul yn rhedeg yn bur agos ato ar brydiau.
"O'r gore, os fel'na mae hi i fod..." Gwasgodd ei sigaret i'r llestr llwch a gorwedd yn ôl yn ei sedd.
Ysbrydolwyd y gerdd gan farwolaeth glöwr 48 oed, aelod o gapel y bardd a chyfaill iddo, a fu farw o glefyd y llwch.
Yma hefyd y crewyd sain unigryw Corau'r Rhos, y lle yn ysgwyd dan gyfaredd lleisiau coliars, yn carthu llwch a thywyllwch y pwll glo o'u heneidiau.
Codi o'r llwch a wnaeth Ieuan Gwynedd, yntau, a hyd yn oed pan oedd yn weinidog yn Nhredegyr dim ond cildwrn pitw a gâi am ei wasanaeth.
ochneidiodd lopez a gosododd y sigâr yn y blwch llwch.
`Pan drown yn llwch,' meddai'r geiriau ar y garreg, `os bydd iaith Lithuania'n gry' ac os bydd ysbryd Lithuania, trwy ein hymdrechion ni, wedi adfywio; yna, hyd yn oed yn y bedd, fe allwn orffwyso'n fwy tawel.'
yn symud yn araf--mor araf â blodyn yn agor--nff bod hollt neu agen yn ymddangos a baw m~n fel llwch yn rhedeg allan.
Gyda'r llwch holl-bresennol roedd yn rhaid iddo sgubo a dwsto sawl gwaith y dydd i gadw'i gaban mor lân â hyn.
Roedd cyffro gwyllt yn yr aer a hwnnw wedi'i achosi gan y llwch a chwyrli%ai i fyny oherwydd y gwres, dwi'n credu.
Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.
Ac mae'r llwch yn codi'n oer ym mhelydrau'r bore.
Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.
Roeddynt yn creu sustemau'r gofod yn y labordy, drwy anweddu llwch carbon gydag arc carbon mewn atmosffer o heliwm.
mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y byd fel llwch y llawr dyrnu i'r dommen.
Cymryd eu tro i yrru fyddai'r ddau gan eu bod yn hoff o alw heibio ffynnon y fuwch goch ar waelod y pentre i olchi llwch y glo o'u cegau!
Yn amlwg, gallent weld y pedwar march am fod effaith y llwch yn dechrau gwanhau.
Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.
Rhag ofn i rai ohonoch feddwl am ddefnyddio llwch llif, ni fuasai'n syniad newydd, cofiaf y syniad o'i ddefnyddio yn orchudd rhwng planhigion yn tyfu gael ei weithredu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
Mi roedd siopau'n agor yno ac mi roedd pobl yn mynd i barti%on, yn priodi; mi roedd yna briodas yn ein gwesty ni ac mi roedden nhw'n dal i wisgo fyny, hyd yn oed yn y llwch ofnadwy.
Tynnodd ef o'i logell a gweiddi ar y lleill, 'Fe ddaeth yr amser i brofi anrheg y ddraig.' Cymerodd ychydig o'r llwch ohono a'i daflu drosto'i hun a'i ferlyn.
Roedd gan y gyrrwr bachgenaidd yr olwg gar sedan mawr du cromiwm allan erbyn hyn ac roedd yn tynnu llwch oddiar hwnnw.
Craciodd yr awyr o'u cwmpas wedi'i throi'n llwch.
Y mae ef yn dal fod yr Hen Ymneilltuaeth syber, ddeallusol, oeraidd wedi marw ac Ymneilltuaeth newydd wedi codi o'i llwch, a'i brwdfrydedd yn cael ei fegino gan awelon cynnes y Diwygiad Efengylaidd.
Dim gwaith sychu llwch, dim gwaith poeni yn eu cylch nag yn eu sgwâr.