Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llwgu

llwgu

Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth...

Roedd y rhain yn llwgu, a phan geisiodd Mrs Chalker ddosbarthu rhyw ddwsin o Milky Ways, fe aeth yn sgarmes anwar.

Does neb yn llwgu yma, i'r gwrthwyneb, ni yw un o'r cenhedloedd cyfoethoca' yn y byd.

Ydi 'tawn i'n llwgu, ym Mhen Cilan o bob man.'

'Rydw i'n hannar llwgu ers wsnos yn y fan acw - gorfod byta fel bydawn i'n byta uwd hefo myniawyd." "Helpa dy hun." "Mae hi wedi suro'r 'Dolig i mi, was i," ebr efô, ar ôl bwyta'n awchus am ysbaid.

"A'r bobl yn llwgu," ochneidiodd Jean Marcel yn ddwfn.

Yr enw Sam oedd y cyswllt un tro, ac ar ôl bod trwyr rhai amlwg i gyd, dyma Rhys y basydd yn cynnig y berl Sam Barama, hynny yw snam bara yma, am ei fod yn llwgu - www, cymhleth.

Dydd Gwener, Mawrth 9, 2001 Os ydach chi'n llwgu am gerddoriaeth Gymraeg, a hwnnw'n dda, yna dyma'r risêt i chi.