'Yr holl ffordd o Drefynwy i Dyddewi, meddiannwyd y cwbl o'r wlad a oedd o unrhyw werth yn eu golwg gan estroniaid o waed ac iaith, ac ni adawyd i hen frodorion y tir ddim ond bryniau llwm a choedwigoedd diarffordd.
Digon diffaeth a di-faeth yw llawer o ffrwythau llachar y misoedd llwm.
Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.
Yn y gorffennol yn unig y mae rhinwedd iddi: llwm a threuliedig yw'r presennol a brad yw 'edrych ymlaen.' Diddyma ei phersonoliaeth unigol er diwallu gofynion ei chydwybod deuluaidd.
Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.
Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.
Sylwi mhellach Ar y fam yn wyw ei gwedd, Ac yn plygu megis lili, I oer-wely llwm y bedd.
Dyna'r darlun llwm a dreir gan ffigurau lloches eleni.
Mae pob ffrwyth sydd yn aros ar frigau'r llwyn yn codi ei werth y tu hwnt i reswm gyda threigl y misoedd llwm.
Mewn cyfnodau llwm ac annodd mae teyrngarwch yn rhywbeth sy'n dod i'r amlwg fel clapiau o aur mewn rhidyll.
Felly, dyma ni'n mentro o'r diwedd i mewn i un o'r adeiladau llwm, llwyd yr olwg, a chael yn wir fod yno siop - neu siop siafins o siop, i fod yn fanwl gywir.
Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).
Mor llwm yw geiriau fy llythyr a bydd rhai ohonynt yn anodd i ti eu derbyn.
Llythyr llwm yw hwn a rhy faith.
Ddeudodd Gwyn yr un gair o'i ben ond rhythu'n sorllyd ar weddill llwm y brecwast.
Mae ffrwythau yn fwyd i adar nid yn unig i fagu bloneg ymlaen llaw yn yr Hydref i wynebu'r llymder sydd i ddod, ond hefyd maent yn gynhaliaeth gefn gaeaf llwm.
Llai o ddail y flwyddyn gyntaf, a llai fyth yr ail a'r drydedd nes bod y cangau llwm fel parlys gaeaf yn llawnder haf.
Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.
Doedd dim pwrpas iddi siomi'r bechgyn a siomi Mam hefyd er mwyn dychwelyd i wynebu Nadolig llwm yn Surrey.
Wedi dychwelyd i'w lety llwm y noson honno y buasai yn nhŷ braf Mrs Paton Jones teimlai Hector dipyn yn fwy hyderus a phwysig.
Erbyn hyn, nid oes prinder beirniaid i dynnu sylw at y gwahaniaeth dolurus rhwng y delweddau rhamantaidd a'r realiti llwm a oedd ohoni fynychaf, yng Nghymru fel ymhob gwlad arall y rhamanteiddiwyd ei gwerin.