Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llwy

llwy

Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.

Lle'r oedd Arabrab, a oedd yn wraig normal ei harchwaeth, er gwaethaf ei hanfanteision, mor hoff o wynwyn a'r Brenin a'i deulu, doedd dda gan Ynot wnionyn o fath yn y byd, mewn llymed nac mewn llwy, mewn cawl nag mewn caws nac, mewn diod na dim.

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Gwnaed lliaws o awgrymiadau, o ddodi llonaid llwy de o soda golchi yn ei chwpanaid boreol, i ollwng blychaid o lygod bach yn rhydd yn ei hystafell wely'r nos; eithr nid oeddynt yn ymarferol.

Ceisiwch osgoi ryseitiau sy'n llawn braster a siwgr ac, os yw'n bosibl, newidiwch rysait i gynnwys llai o siwgr a braster; e.e., un llond llwy de o siwgr yn hytrach na dwy.

Os bydd llwy yn syrthio i'r llawr, gallwn ddisgwyl ymwelwyr.

Newydd roi'r llefrith ar y Coco Pops ac ar fin codi'r llwy i ddechrau bwyta fy mrecwast roeddwn i pan sgubodd Nain Ffred i mewn i'r gegin a golwg wyllt arni.

Y mae hâd mwstardd yn dra meddyginiaethol...Cymerir hwynt weithiau yn gyfain, llonaid llwy ar unwaith, rhag y parlys, dyfr-glwyf, a drwg ansawdd y corph.

Llond llwy neu ddwy?

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

HELP!' Gollyngodd Mam y llwy de ar lawr yn ei dychryn a dechrau rhedeg i gyfeiriad y grisiau.

Ac y mae llond llwy neu ddwy ohono, meddai, mewn ychydig ddwr cynnes, yn ardderchog at wendid y nerfau.