Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llwydlas

llwydlas

Os byddai Enlli o liw llwydlas, roedd hynny yn ddigon o arwydd am ddiwrnod braf trannoeth.

Roedd ei llygaid yn llwydlas fel llechi, a phan edrychent arnaf roeddent yn gwbl ddi-fynegiant bron.

Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.

Cyfyng yw'r amrywiaeth tonyddol, ond mae yma gyfoeth o sensitifrwydd a theimlad.Yn rhannau uchaf yr awyr mae'r haenau paent yn dewach a'r llwydlas ar letraws yn awgrymu cymylau'n symud ac yn cyd-bwyso â llinellau esgyll y felin.

Ond mae'r 'Arlunydd Mawr' wedi cymysgu'r pinc yn ofalus a chywrain a lliw melyn, gwyrdd, du, gwyn a llwydlas.

Adar fu'n gloddesta ar ffrwythau llwydlas yr eiddew ar grib y wal oeddent.