Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llwyni

llwyni

Peth da, a digemeg hefyd, fyddai treulio orig min nos yn chwistrellu dwr glân ar y coed a'r llwyni ffrwythau newydd eu plannu.

Dylid sicrhau nad yw'r coed a'r llwyni sy'n wynebu eu haf cyntaf yn cael sychu.

chwilio am ddarnau o frigau crin o 'r llwyni a 'u hyrddio i ganol yr afon, ac yna ras wyllt i lawr y lan i weld y cychod yn ysgythru rhwng a thros y cerrig dan rym y lli.

gwyddent am ambell bren i 'w ddringo, neu caent hyd i ryw bostyn i anelu cerrig ato neu dorri or llwyni rifolfer a phistol fel rhai starski a hutch.

Mae adar mân y llwyni Y dyddiau hyn yn canu Pob un yn dewis cydmar clyd I fyw ynghyd fel teulu.

Mae'r Antur, hefyd, wedi sefydlu canolfan arddio sy'n cynnig amrywiaeth o blanhigion, llwyni coed, alpau a grug ac amrywiaeth o ddodrefn, thybiau pren a choncrit ac addurniadau ar gyfer yr ardd a'r patio.

Ceir trefn goruchafiaeth pendant ymhlith adar y llwyni.

Aeron y llwyni yw unig fwyd llawer o greaduriaid yn ystod y gaeaf.

Hefo coed a llwyni mewn oed, gellir taenu llond dwrn o swlffad potas o gwmpas pob bonyn tua thair wythnos cyn y mwls.

Nodwedd amlwg ein gaeaf ni, yw brigau noeth y coed a'r llwyni, fel y dderwen a'r ddraenen.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Dyma'r adeg i ddisgwyl ymosodiad y gwahanol bryfed gwyrdd ar rosynnau, llwyni addurnol a choed a llwyni ffrwythau.

Mi aethon nhw a phob peth oddi yno yn flodau ac yn llwyni - a hyd yn oed y pwll pysgod a'i drigolion.

Ar lan y môr heli ni thyfodd erioed Na bedwen na gwernen na draenen ar droed, Nac unmath o goedydd ond llwyni o frwyn; Dan gysgod y rheini daw defaid ag žyn.

Mae'r Dryw yn bwydo ar lefel y llwyni a'r Titw Tomos ar lefel y brigdwf neu'r canopi.

Oedai o bryd i'w gilydd i ddotio ar we'r pryfed cop ar y llwyni a'r brigau euraid.

Llwyni briallu hefyd.

Yr oedd ein ffordd trwy ganol gwlad neilltuol o dlws - yn fryniog, yn neilltuol y rhan gyntaf o'n taith - goediog; nid fforestydd ychwaith, ond llwyni mawrion yma a thraw fel a welir ar barciau boneddigion Prydain.

Yn fasnachol gwnaed defnydd helaeth ohono rhwng llwyni rhyfon (cyrens) duon a rhesi mafon yn ogystal a ffrwythau eraill.

Mae'r dryw yn aml yn adeiladu'i nyth mewn wal gerrig wedi'i gorchuddio ag iorwg, ac mewn llwyni trwchus.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

Bydd y potas yn hybu datblygiad y blodau a'r ffrwythau, sef prif nodweddion coed a llwyni.

Yn aml iawn maent yn darganfod mai un o'r rhesymau pennaf dros ddirywiad ydi dinistrio cynefin yr dar, ac felly dinistrio eu bwyd a'r llefydd i nythu e.e mae llawer i hen ddarn o dir a llwyni toreithiog o ysgallen ynddo yn nefoedd i'r nico.