Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llychlyd

llychlyd

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.

Roedd hi'n gynnes iawn, a'r lôn yn frown a llychlyd.