A'r llall yw diwedd oes, diwedd oes y planhigion byr eu hoedl a'r dail llydan, a diwedd oes llawer o'r pryfed ac anifeiliaid bach fel y llyg.
Mynegodd un arall o gaplaniaid y Methodistiaid Calfinaidd ei bryder fod y gagendor rhwng y milwr a'r Eglwys mor llydan fel na ellid ei bontio heb ddyfalbarhad ac amynedd mawr o'r ddeutu.
safodd y pedwar i weld eu llongau 'n taro 'r dŵr ^ r ac yn troi 'n ansicr i nofio i lawr yr afon, ac yna rhedodd y bechgyn nerth eu traed tua 'r fan lle cymerai 'r afon dro llydan, braidd fel pedol ar ymyl y ffordd ac yn ôl wedyn.
Datblygu o'r coed cyntefig yma, efo'i dail fel nodwyddau a'i ffrwythau yn foch coed, wnaeth y coed llydan eu dail.
(Rhuthrai'r gwynt drwy'r buarth caregog tu allan i'r ffenestr hir, a fflamau'r tân llydan yn ymestyn i fyny ceg y simnai fawr.
Wrth deithio i Gynhadledd Merched y Wawr yn yr Hydref, mae'r gwahaniaeth rhwng coedydd bythwyrdd duon y Ganllwyd, a lliwiau'r coed llydan eu dail yng ngoedydd Dolgellau yn syfrdanol hollol.
Roedd hi'n goeden fawr, yn goeden gref, a'i changhennau praff yn gynnig cysgod llydan rhag gwres yr haul neu gawod o law.
Un elfen arall gyffredin: yr oedd y genhedlaeth newydd hon o feirdd yng Nghymru yn wŷr llydan eu diwylliant a'u darllen, ac yr oedd rhai ohonynt wedi teithio ar y Cyfandir.
Nawr 'te, y bêl am eich bywydau.' Estynnodd ei law am y cwdyn, y wên yn llydan ar ei wyneb.
Aeth Thomas cyn belled â phadog y cesyg magu i chwilio, ond y cwbwl a welodd yno oedd bod rheini wedi'u dychryn i ffitiau, eu llygaid yn llydan agored ac yn laddar o chwys pob un.
'Siarad yn gall, ddyn, neu cau dy geg,' meddai Vatilan, yn codi pen-glin rhwng coesau Gemp ac yn torri cawg Kemper llun dyn llodrau llydan am e ben.
Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.
Ar waelod y grisiau derw llydan safai Hywel Vaughan a'i wraig Lowri.
Yr oedd yr hen gadair yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiwethaf bedwar diwrnod cyn y noswaith honno.
Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.
Roedd hi'n gawres yn ymyl ei gŵr, yn ddynes gref, bum troedfedd a naw o daldra, yn llydan ei chorff ac o asgwrn cryf.
Dyn mawr ydoedd, ysgwyddau llydan.
Clywn ei sŵn yn stwyrian ac yn murmur draw yno, a chyn bo hir dyma fo'n ymddangos o'i guddfan dan groesi'r llawr llydan ar ryw hanner dawns, ond wrth chwifio'i freichiau llithrodd y stethosgop o'i ddwylo dan sglefrio ar bolish y linolewm fel sarff rwberog.
Ac os mai syfrdan yw lliwiau'r hydref yng Nghymru, beth am y syfrdan o weld y coedwigoedd llydan ddail yn nhaleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America.
Roedd ganddynt drowsusau gwyn a sandalau aur am eu traed, a gwregys llydan coch am eu canol.
Wrth wylio un afalans llydan yn llithro ymaith yn union wrth draed dau ffigwr bach ym mhen arall y grib ac ofni'r gwaethaf am funud hir, daeth geiriau o 'Princess' Tennyson o'r newydd i'm cof: to walk With Death and Morning on the Silver Horns.
Roedd hi'n ôl yn y bwthyn yn Nhraeth Coch, yn ei ffrog gingham fioled a gwyn newydd, y ffrog a'r gwddw isel a'r belt llydan metalig o gwmpas y wasg a'r fflowns yn y sgert yn dod dros y pengliniau.
Trôdd pawb ar eu sodlau a cherdded i fyny'r llwybr llydan dan rowlio'r casgenni.
yn fwy bygythiol nag arfer am ei fod yn sefyll mor llonydd a'r golau egwan yn sgleinio mor oeraidd ar fetel ei ysgwyddau llydan.
Er enghraifft, y mae'r afon Conwy mor llydan lle y mae'n mynd i'r môr fel y bu rhaid adeiladau pontydd drudfawr i fynd o'r naill lan i'r llall.