Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llyfn

llyfn

Craffwch ar y cerrig myllt o'ch cwmpas, yr ochr ucha'n llyfn ac olion plyciadau'r rhew ar yr ochr isaf.

Roedd gan Mop wyneb gwritgoch a gwallt fel gwrych heb ei docio, ac roedd gwallt Jaco'n llyfn fel petai can o olew wedi ei dywallt arno.

Ei law wen yn ngafael llaw arw'i thad, ei wyneb yn llyfn yn ymyl gerwinder y llall.

Roedd ei groen yn llyfn a chlir a symudai fel dyn a chanddo gyhyrau iach iawn.

Ond pan nofiodd ychydig yn is, gwelodd rywbeth hir a llyfn yn llechu.

Mae'r cerrig ar y gwaelod yn llyfn ac i'w gweld yn goch a melyn drwy'r dwr, ac yn gynnes rwy'n siwr.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai tri yn unig a ddysgodd ddarllen, sef Edward Jones, Llechwedd Llyfn; Owen Roberts, Tŷ'n Pant; a Robert Roberts, Bryn Du.

Rydym i gyd wedi cael y profiad rwy'n sicr o ddod o hyd i bob math o bethau bach colledig unwaith y codwn ymyl y carped gan edrych oddi tano; yn yr union fodd ag y medr y daearegwr edrych ar ryfeddodau'r creigiau oddi dan wyneb y tirlun llyfn.

Mynd i fod ddywedodd hi a gallai hynny olygu ei bod yn dal i edrych arno fel plentyn, yn llyfn, heb fagu siâp.

Bysedd hirion, cryf oedd ganddi, yn llyfn fel bysedd merch ifanc, ac yn llawn rhyw.

Aethom allan trwy'r drysau gwydr ac ar hyd llwybr llyfn o fflagiau coch a oedd yn arwain o'r garej hyd ymyl pellaf y lawnt.

Anfonwch ambiwlans, mae Williams yn fyw o hyd.' 'Ble ry'ch chi nawr, syr?' Roedd tinc o nerfusrwydd yn llais Kirkley ar ben arall y lein; fel arfer rhedai gweithgareddau'r adran yn llyfn a digynnwrf.

Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.

Chwifiodd ei blaen unwaith neu ddwy, er mwyn i ni i gyd gael gweld mor llyfn a hardd ydoedd.

A syllu, syllu ar eiria'r daflen, geiria caled ar y gwyn llyfn, fel tasa dal i sbio'n mynd i ddileu'r geiriau neu yn newid yr enw i enw rywun arall y medran ni yn haws ei sbario.

Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.

Ond y trenau trydan llyfn a'u tocynwyr trugarog?