Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llymder

llymder

Bu llymder yr archesgob yn foddion i wneud y Piwritaniaid yn fwy ystyfnig.

Ac er i Newman wadu wrth Esgob Rhydychen mai mynachlog ydoedd, wrth i'r amser gerdded a dynion ifainc yn dod yno i aros, ymdebygai bywyd Littlemore yn fwyfwy i fywyd sefydliad Pabyddol, gyda phwyslais neilltuol ar ddisgyblaeth a llymder personol, yn enwedig yn nhymor y Grawys.

'Ap' oedd yr enw a ddodasai ef ar y creadur dienwaededig oherwydd llymder ei gyfarth.

Mae ffrwythau yn fwyd i adar nid yn unig i fagu bloneg ymlaen llaw yn yr Hydref i wynebu'r llymder sydd i ddod, ond hefyd maent yn gynhaliaeth gefn gaeaf llwm.

Ac er yr holl faneri oedd i'w gweld, ni allent guddio llymder y lle yn gyffredinol.