Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llyncu

llyncu

Peidiwch â bod yn hir efo'ch cinio, rhag i ni fod yn hwyr yn yr ysgol." Ni fum yn hir yn llyncu fy nghinio, a phan gyrhaeddais at y gamfa, yno'r oedd Capten yn disgwyl amdanaf.

Yr oedd mab yr Yswain, Mr Ernest Griffith, a oedd wedi cael gwell addysg na'i dad, ac wedi llyncu syniadau am y dull y dylai pawb adnabod eu lle mewn cymdeithas, dipyn yn wahanol i'w dad yn ei opiniynau a'i dueddiadau.

Os y cam olaf, a ddewisid, yr oedd yn bwysig fod aelodau'r grwp yn sylweddoli maint gwaith, sef y byddai'n llyncu rhan helaeth o'u hamser am flwyddyn neu ddwy.

Unrhyw dro arall bron, fe fydde fe 'di brathu'i dafod a llyncu'i boer.

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Y peth trist yw fod cynifer o Gymry Cymraeg yn llyncu'r abwyd.

Tipyn o sioc i Alice, oedd wrthi'n llyncu asbrin ac yn mwydo'i thraed yn y gawod, oedd clywed y myllio mwyaf erchyll yn dod o'r stafell wely.

Yn sydyn gwaeddodd Padarn: 'Llynced y ddaear ef!' ac agorodd y ddaear a llyncu Arthur hyd at ei ên.

Mae'n syn gen i na fydden nhw wedi llyncu'r llestri hefyd!' 'Hy!' meddwn i'n reit bigog.

Bryd hynny roeddynt yn fawr ac yn llyncu egni, ond fel cymaint o ddatblygiadau mewn ffiseg electronig daethant yn llai o ran maint yn ogystal â bod yn fwy effeithlon.

Gweld dinas Akrotiri, y bu archaeolegwyr yn ei dadorchuddio o'r lafa folcanig er 1967 gan ddangos yn eglur sut yr oedd yr ynyswyr yn byw 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist, pan ffrwydrodd mynydd tanllyd a llyncu rhannau o'r ynys yn gyfan.

'Mae wedi llyncu'r bachyn,' meddai Alun.

Mae'r system hon yn llyncu adnoddau gan fod pob cynllun iaith yn unigryw i'r corff hwnnw yn hytrach na bod yna nod cenedlaethol o newid hinsawdd ieithyddol Cymru.

Meddwl y buasech chi'n dangos y lle i mi.' Tewch â sôn, Mr Price,' meddai â'i llygaid yn ddiniwed i gyd.' Ydach chi'n mynd i'n llyncu ni i de-ddeg?'

'Roedd hi wedi llyncu'r abwyd.

"Y peth cynta i neud hefo dyn wedi llyncu dôs o wenwyn, wrth gwrs, ydi rhoi dôs o ddŵr a halan iddo fo.

I gychwyn mae Harri'n pwyntio bys at wendidau ei dadleuon, ond yn fuan iawn, ac yn gymharol ddibaratoad, mae Harri'n eu llyncu - nid oherwydd cadernid y dadleuon a gyflwynir, fe awgrymir, yn gymaint ag oherwydd cyfaredd dwy lygad dywyll Gwylan!

Ac os trof fy ngolygon i'r de gwelaf grychydd yn llyncu pysgodyn yn yr afon, a churyll yn ymsaethu i lawr i ddal ei sglyfaeth, a dyn yn bwyta'r oen i ginio.

Bu+m wedyn yn astudio pob symudiad ym mecanyddiaeth ceg a llwnc y ddwy; roeddwn yn llyncu bob tro y llyncent hwy a hynny'n achosi rhyw arwyddion ffug i'm hymennydd!

Mae'r peiriant yn llyncu'r cerdyn ac yn poeri tipyn o bapur allan.