Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llysiau

llysiau

Mae llysiau'n awchus am borthiant, a chymerant lawer o'r maeth o'r pridd wrth iddynt dyfu.

Gellir parhau i hau hadau llysiau a gwneud hyn dros gyfnod o amser er mwyn cael cnydau dilynol.

Anelwch at fwyta bwydydd sydd a llai o fraster a siwgr ynddynt - ond sydd a mwy o ffibr, yn arbennig ffrwythau a llysiau.

Cynllun deg pwynt Bwytewch ddigon o ffrwythau a llysiau ffres.

Mae pridd yr ardd fel rheol yn ddigon ffrwythlon i dyfu llysiau a blodau.

Digonai ei wanc â bwydydd cyflawn a ffrwythau a llysiau.

Nid oedd y blodau na'r llysiau yn yr arch, hyd yn oed, wedi gwywo.

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Mynd i chwarae badminton efo Robbie (y cogydd) a Steven cyn mynd yn ôl i'r farchnad i brynu llysiau.

Tynnodd y llysiau o'r fasged a'u gosod yn chwaethus o flaen yr allor ac ar sil y ffenestri.

Gwnaeth osgo ar i'r gwerthwr llysiau fynd ymaith.

Ceisiwch osgoi gormod o fraster a siwgr a cheisiwch fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, ond peidiwch a cheisio colli pwysau.

Cnydau o bob math yw bwyd cwningod, cnydau megis glaswellt, ydau, rwdins, moron a dail llysiau, ond yn y gaeaf fe wnânt ddifrod mawr ar goed yn ogystal trwy ddirisglo'r pren ac ymborthi ar y rhisgl.

'Mae hi'n anodd, ond rydan ni'n ceisio annog bobl i dorri lawr ar fwyta braster, halen, siwgr, a chymryd mwy o ffibr, ffrwythau a llysiau.

Llysiau'r Cribau.

Bwyd traddodiadol a baratowyd ar y dechrau - cig rhost, tatws a llysiau.

Dylid defnyddio olew llysiau i goginio'r pysgod a'r 'sglodion yn hytrach na brasterau trwythedig megis lard a margarin.

Un haen o fysg llawer oedd ffrwythlonedd cnydau, perthi aeron, llysiau gardd a'r byd llysieuol yn gyffredinol.

O ran delfryd, llysiau fwytawr ddylwn i fod, nid bwystfil ysglyfaethus.

Roeddwn i dan yr argraff fod newyn yn taro gwlad oedd heb fwyd i'w roi i'w phobl ond, ar strydoedd Mogadishu, roedd yna farchnadoedd yn gyforiog gan fwydydd o bob math; cig, blawd, bara, siwgwr, ffrwythau, llysiau, olew, losin hyd yn oed.