Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llysywod

llysywod

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Datblygu allan o sleim y llysywod mawr oedd cynnig Oppiau ar y modd yr epilient!

Wrth rwydo'n rheolaidd efo rhwyd fân, mewn gwahanol ddyfnderoedd wrth hwylio ar draws yr Iwerydd, gwnaeth siart yn dangos hyd y llysywod bach a ddelid.

Cawsom oriau bwygilydd o bleser hefyd wrth bysgota llysywod yn afon Soch a brithyll bychain yn afon y Felin a lifai o lyn y gwaith dwr.

Ond wedi'r holl gyffro gyda'r adar a'r siarc, a'r ymladd hefo'r llysywod, teimlai Douglas nad oedd ganddo fawr o nerth ar ôl erbyn hyn.