Yr ydym yn meddu ar wareiddiad, ebe George Steiner (a'i drosi'n llythrennol), am ein bod wedi dysgu cyfieithu allan o amser, neu (a dyma'i ystyr) am ein bod wedi dysgu dehongli'r gorœennol a gedwir mewn geiriau.
Roedd yn llythrennol yn rhoi ei droed ar awyren a fyddai'n ei gludo ar daith rygbi i'r Unol Daleithiau pan alwyd arno i fynd i Irac.
Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.
Mae'n credu hefyd mai natur yr hwch sydd yn y borchell, a hynny'n llythrennol wir am Culhwch, a aned o'r cil rhwng yr wrethra a'r rhefr ac a faged gyda'r moch.
Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.
Mae'r telesgopau radio hyn yn dderbynyddion radio sensitif iawn, ac yn llythrennol yn gwrando ar signalau o'r bydysawd a gre%ir gan brosesau naturiol.
Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.
Yn Y Bibyl Ynghymraec fe welai yn Gymraeg amlinelliad o'r hanes a groniclir yn y Beibl, a hwnnw wedi ei ragflaenu â chyfieithiad llythrennol o'r bennod gyntaf o Genesis.
Y cam cyntaf i bob darpar feddyg yw dod i adnabod y corff dynol, a'r ffordd uniongyrchol ac effeithiol o wneud hynny yw drwy wneud hynny'n llythrennol.
Ystyr þàçàþþàþþ yn llythrennol yw "rhoddi i lawr yr arwahanrwydd", ac fe'i cyfieithiwyd weithiau gynt fel "iawn" (gwelir hyn yn yr hen gyfieithiadau Saesneg lle defnyddir y gair "atonement").
Dywedwch wrth y ci fod mwy o gig ar goesau'r estate agent, yr hyn sy'n debyg o fod yn llythrennol wir, am amryfal resymau.
Golygai'r gwaith datrannu hwn ein bod yn digroeni braich yn llythrennol ond fe wneid hynny, wrth gwrs, â'r cyrff a roddasid at wasanaeth meddygon drwy ewyllysiau unigolion.
Ac ar ddiwedd mis, mor anodd oedd dioddef cuchiau'r marciwr cerrig oni fyddai ganddo ddigon o gyfrif, a gorfod begera'n llythrennol am glytiau wedyn.
Dau hen glogwyn diwerth a fu'n feini trarngwydd--yn llythrennol felly--i'r oruchwyliaeth trwy gydol y blynyddoedd oedd 'Y Negro' yn adran Califomia a'r Diffwys, a'r 'Ceiliog Mawr' yn adran Wellington a Victoria.
I'w gweld yn llythrennol bob awr o'r dydd ar nos rhoddant yr argraff eu bod yn trafod yn ystyrlon y pynciau rhyfeddaf dan haul.
Ond peidiwch â'i goelio'n llythrennol, mwy nag y coeliech fardd yn dagreuo hiraeth am ei gariad dan yr ywen.
Ac ar ben hynny, mae'r Gymraeg yn llythrennol yn dal i golli tir yn ei chymunedau yn sgîl polisïau tai a phenderfyniadau cynllunio, yn sgîl tlodi Cymru ac yn sgîl chwalfa holl effaith athroniaeth farchnad rydd y Llywodraeth Dorïaidd.
Wrth i'r arweinwyr ffarwelio â'i gilydd mae eu swyddogion yn rhuthro allan gyda chopi o'r datganiad terfynol - ychydig baragraffau fel arfer y bu cryn chwysu drostyn nhw er mwyn sicrhau fod pob gair, yn llythrennol felly, yn ei le ac yn dderbyniol i'r Dwyrain a'r Gorllewin.
Wrth olygu, bydd ychydig o'r deunydd sydd wedi ei ffilmio yn cael ei wrthod ond bydd y gweddill cael ei dorri'n llythrennol a'i lynu at ei gilydd mwyn gwneud y cynhyrchiad gorffenedig.
O'r herwydd, doedd yna, yn llythrennol, ddim car yng nghyffiniau y Gaiman a Threlew nad oedd ei ffenest flaen yn graciau i gyd - wedi eu malu gan y cerrig dirifedi a fyddai'n cael eu taflu gan olwynion ceir eraill yn pasio.
Roedd hyn yn llawer llai poenus i'r coesau a phawb yn mynd yn gyflymach - i fyny ac i lawr dros y 'maguls', aros yn llai aml a gwirioneddol fwynhau'r profiad nes ein bod yn teimlo ar ben y byd - yn gorfforol a llythrennol.
Ddiwrnod yr etholiad anfonwyd yn llythrennol filiynnau o ebyst at bleidleiswyr unigol yn enw yn enw Tipper Gore.
Mae rhyw gemegyn arbennig yn ei faw sy'n gwneud i'r defaid gosi cymaint fel na allant 'fyw yn ei crwyn' yn llythrennol.
Mae tuedd, ysywaeth, i'r holl bynciau orbwysleisio'r dealltwriaethau llythrennol ac ad-drefniadol yn y math o gwestiynau darllen a deall a osodir ym mhob maes cwricwlaidd a chyda phlant cyffredin ac is o ran gallu yn arbennig, ar ddechrau gyrfa ysgol.
Dealled y darllenwr nad pasio rimarcs am drwyn llythrennol yr hen frawd cu yr ydw i.
Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.
Y mae'r cyfieithu yn anwastad iawn, ar dro yn gwneud dim ond atgynhyrchu Beibl Genefa, dro arall yn cadw fersiwn y Beibl Mawr heb ei newid nemor ddim; mewn rhai llyfrau yn aralleirio'n llac, mewn llyfrau eraill yn trosi'n dra llythrennol.
Nid oes uwch cydnabyddiaeth o barhad na bod yn wrthrych mil a mwy (yn llythrennol felly) o draethodau poenus ganol Haf.
Mae pethau fan hyn yn llythrennol ar i lawr.
Gweryru a sisial, bargeinio a bloeddio a mân siarad yn llythrennol gymysg â llawer o falu awyr.
Y broblem fwyaf efo'r gwledda yw'r 'baijiu' (llythrennol - alcohol gwyn) a'r 'ganbei' (llythrennol 'sychu gwydr').