Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llythyren

llythyren

Keint oedd enw Henry Rowlands arni hefyd, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau ati yn yr archifau sydd yn dyddio o'r cyfnod hwn yn defnyddio'r llythyren flaen k.

Drwy ddefnyddio llaw-fer, gellir mynegi unrhyw daith mewn chwe llythyren.

Yn yr un modd, fe ymgorfforir mwtaniad yn yr algorithm genetig, drwy i un llythyren yn y 'DNA' gael ei newid i un arall.

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

Craffwn ar y saith llythyren.

Cred ambell yrrwr tacsi ei bod yn lwcus i gael cerbyd â'r llythyren U yn y rhif.

ar yr olwyn drosglwyddo yr oedd nifer o binnau, un ar gyfer pob llythyren.

Mae'r heddlu'n awyddus i siarad â gyrrwr Mercedes âr llythyren gorfrestru M welwyd yn yr ardal ar y pryd.

Yna, rhedodd y ddwy eu bysedd esgyrnog i lawr y rhestri swynion, yn gyntaf y rhai'n dechrau â'r llythyren 'A'.

yn sbaen mae pob car yn dwyn llythyren neu lythrennau sy'n dweud o ble mae e'n dod.

Rhown ein dwylo yn y bag a thynnu allan saith llythyren heb eu gweld; edrychwn arnynt a dechrau'r gêm.

Y gamp yw ffurfio'r gair hiraf posibl o'r saith llythyren, ac wrth gwrs mae'n rhaid i'r gair fod yn air iawn a'r sillafu'n berffaith gywir.

gyferbyn â'r pinnau gosodwyd pwyntiau ", dan reolaeth bwrdd allweddau, gydag allwedd ar gyfer pob llythyren.

Yn y llaw-fer yma, dynoda'r llythyren gyntaf y pentref cyntaf i ymweld ag ef, yr ail lythyren yr ail bentref, ac yn y blaen.

Trosir hyn i'r cyfrifiadur drwy greu poblogaeth fechan o 'DNA' mewn meddalwedd - yn syml, rhestr sy'n cynnwys nifer o gyfuniadau o'r chwe llythyren uchod.

gan nad oedd angen atal ac ail-gychwyn yr olwynion wrth argraffu pob llythyren, fel ym mheiriant house, nid oedd peiriant hughes yn defnyddio gymaint o gerrynt, ac o'r herwydd, yr oedd yn bosibl ehangu'r pellter rhwng dwy orsaf delegraff cyn fod y cerrynt wedi gwanhau'n ormodol.

Bydd y deg rhaglen, trwy gyfrwng llyfr o'r gornel ddarllen yn dysgu plant blynyddoedd cynnar sut i ffurfio deg llythyren o fewn cyd-destunau ystyrlon.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

Maent i gyd wedi rhoi llythyren y traddodiad uwchlaw'r ysbryd a chymryd delfryd yn lle realiti cyflawn.

Trwy'r broses yma, fe wneir yn siwr nad yw llythyren pentref yn ymddangos ddwywaith yn y 'DNA' teithio newydd.