Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.
Os yw'n haws i rai nesau at oes Llywelyn Ein Llyw Olaf trwy ddarllen nofel Marion Eames na llyfr hanes Beverley Smith, yna boed felly, ac efallai y bydd blas y naill yn codi archwaeth at y llall.
Mae ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn fuddiol ond mae'r cytundeb heb ei arwyddo.
Honnir ar siaced lwch Y Gaeaf Sydd Unig Marion Eames, er enghraifft - nofel sy'n trafod cyfnod Llywelyn Ein Llyw Olaf : Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswyddau a marwolaeth.
Mae hyfforddwr Caerdydd, Lyn Howells, wedi cyhoeddi y bydd e'n gadael y clwb ar ddiwedd y tymor, ar ôl dwy flynedd wrth y llyw ar Barc yr Arfau.
Mae'n help i wasgu ychydig rhagor ar y llyw mewn llefydd felly.
Yn allanol, yr oedd yr hen argyhoeddiadau'n dal - roedd Duw yn ei gapel, a'i law ar y llyw yn ddi-sigl.
y dyn wrth y llyw - MAIR DAFYDD (CYFRES Y FODRWY) Wedyn, pan oedden nhw'n eistedd ar siglen fawr yn yfed diod, oedd yn fendigedig o oer, meddai Tom,"Fe fu+m i'n ystyried.
Dros y misoedd diwethaf bu newid wrth y llyw, yn dilyn ymddeoliad Geraint Talfan Davies.
A does dim sicrwydd pwy fydd wrth y llyw bryd hynny.
phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.
A'i chefn yn erbyn y llyw mawr gloyw lled-orweddai merch ifanc mewn siorts byr yn torheulo gyda'i llygaid ynghau.
Deall wedyn mai fy nghyfaill Bernard oedd yn gyrru a ddim yn arfer gyrru car gyda'r llyw ar yr ochr dde ac wedi mynd yn rhy agos i balmant a malu teiar.
Yn wir, ychydig iawn o son o gwbl a geir am Forgannwg yng ngwaith y Gogynfeirdd hyd at gwymp y Llyw Olaf, ac eithriad llwyr yw awdl foliant Prydydd y Moch i Wenllian ferch Hywel o Gaerllion tua diwedd y ddeuddegfed ganrif.
Tybed a fyddai 'Crafu'r Gwaelod' wedi cael ei lansio ym Mangor petai Sam yn dal wrth y llyw?
Fe rwystrai hynny i mi ddyfalu sut le fyddai yma petai Gwyn wrth y llyw.
Y canlyniad fu i'r llyw rhydd droi mewn cylch a tharo corff y llong a niweidio'r platiau a hynny yn gwneud i'r llong gymryd dwr.
Am y tro cyntaf ers iddo fod wrth y llyw mae Cork yn wynebu cur pen go iawn.
Nid ymatebodd Gareth, ac wedi taflu golwg sydyn ato, trawodd Adam ef unwaith eto cyn ymbalfalu am y llyw wrth i'r car sgrialu o amgylch cornel siarp yn y ffordd.
Ond dywedodd rheolwr Yr Alban, Craig Brown, mai dyma un o berfformiadau gwaetha ei dîm ers iddo fod wrth y llyw.
Un rheswm am hynny oedd nad oedd y Llywydd wrth y llyw: a Saunders Lewis yn y carchar, nid oedd neb o'r dirprwy swyddogion yn gallu manteisio'n llawn ar y gwynt.
Synnai Glyn nad oedd yn cyffwrdd y llyw nac yn rhoi ei law ar y pilar a reolai'r awyren.
Dwy law ar y llyw ar hyd yr amser piau hi, a hynny am ddeng munud i ddau.
Ac o son am y llyw, hyd yn oed os ydych ychydig yn ddiofal wrth afael yn y llyw yn arferol, fedrwch chi ddim fforddio hynny gyda chara- fan.
Y Parch a Mrs Irfonwy Bowen oedd wedi trefnu'r rhaglen a hwy hefyd oedd wrth y llyw.
Wedyn rhoes ei dwy law yn ôl ar y llyw.
Efo Audrey wrth y llyw yn theatr Fach ac yn cadw trefn ar y "Merched" mae dyfodol y "pethe% reit saff ar Ynys Mon.
Tua chanol nos trawyd y llyw gan foryn a thorri y postyn llyw yn agos i gorff y llong fel yr oedd yn amhosibl i'w llywio.
O'r diwedd wedi hir ddisgwyl, dyma gerbyd mawr crand yn gyrru at yr ysgol a dyn â chap pig wrth y llyw.
A bu'r Herald Cymraeg ar ei elw o'i gael wrth y llyw am gyfnod da.
Troes y llyw.
Gan ddal yn dynn yn llyw'r car â'i law dde, trawodd Adam Gareth yn galed ar draws ei foch â'i law arall.
Un argyhoeddiad y glynais wrtho drwy'r blynyddoedd yw fod y Drindod Sanctaidd wrth y llyw, ni waeth beth ddywed arwyddion yr amserau.
Gan ddefnyddio tacsi â rhifau Palsteinaidd - a Phalestiniad wrth y llyw - fe lwyddon ni i gyrraedd y sgwâr lle'r oedd Siwsan yn byw.
Aeth Iago at Pedr, oedd wrth y llyw ac meddai: 'Pedr, mae hi'n storm arswydus.' 'Ydyw,' meddai Pedr, 'mae hi.' 'Yr wyf yn meddwl y byddai hi'n well i ni fynd yn ôl,' meddai Iago.
Safai darnau o chwys bron yn herfeiddiol ar ei wyneb, ac roedd ei ddyrnau bron yn wyn wrth ddal y llyw'n dynn.