Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llywaeth

llywaeth

...' Rhoddodd y gorau iddi ac edrych yn llywaeth ac yn annhwrneiol iawn.

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

Roedd yr asgellwyr yn llywaeth a phriodol oedd hi mai un o ddau flaenwr bywiog iawn Bury enillodd y gêm.

Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.

Un o warchodwyr sefydlog y gwersyll oedd, ac fe'i bedyddiwyd yn 'Gwep Babi', am ei fod yn llywaeth, a rhyw olwg ddiniwed arno.