Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llywio

llywio

Pwyllgor Llywio'r Rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd

Rhoddodd ofal y llywio i Gwil a chau'r injan fel nad oedd ond prin droi drosodd.

Yr oedd y peilotiaid eraill yn drist iawn wrth feddwl na châi o chwarae rygbi na llywio awyren byth wedyn.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Mynychwyd cyfarfodydd o Gyngor Cwricwlwm Cymru, pwyllgor hyfforddiant cychwynnol a mewn-swydd a phwyllgor llywio'r Gymraeg gan y Cyfarwyddwr; cynrychiolwyd PDAG ar nifer o bwyllgorau llywio eraill y cyngor gan addysgwyr y Gymraeg.

Yn fuan iawn, gallai ei llywio heb hyfforddwr hefo fo.

Cyfrannwyd hefyd i drafodaethau pwyllgor llywio cenedlaethol hyfforddiant-mewn- swydd y Gymraeg, paneli pwnc CBAC, gweithgorau llywio data-bâs cenedlaethol NERIS a'r Asiantaeth Hyfforddi, a phrosiect datblygu dwyieithrwydd mewn addysg bellach.

Mae Gareth Roberts yn llywio'r cwis yn ddiogel ac mae'r cwestiynau, yn ôl arfer cwisiau Cymraeg, yn gymharol hawdd fel nad oes peryg i'r un tim o gystadleuwyr orfod gadael heb wobr o ryw fath.

Yn ystod y pymtheg mlynedd ddiwethaf, mae nifer o ddeddfau, gorchmynion ac adroddiadau swyddogol wedi llywio datblygu gwasanaethau addysgol i blant ag anghenion addysgol arbennig.

Rhaid inni gasglu oddi wrth hyn y gall fod gan y ddau esgob ryw ran yn llywio cwrs ei fywyd addysgol.

Dywed fel y byddai'n cysgu wrth yr olwyn pan oedd y Mêt neu'r Capten yn llywio, er mwyn iddo fod wrth law i alw ar y llall os oedd angen.

Daeth peth llwyddiant i Alan Cork yn ei gêm gynta'n llywio Caerdydd.

Anodd meddwl am neb llai penchwiban na'r dynion hynny sy'n llywio awyrennau anferth a chyflym o un pen i'r byd i'r llall.

Edrychodd yn gyflym yn ei ddrych, cyn llywio'r car i'r lôn araf a dilyn yr arwyddion tua'r gwasanaethau cyfagos.

Wrth ddod i lawr sylwodd ar res o oleuadau gwyrdd a choch a sylwodd fod Abdwl yn llywio i lanio rhwng y ddwy res o oleuadau.

`Daliwch yn dynn,'gwaeddodd y dyn a oedd yn llywio'r cwch modur.

Yn unol â'r Fenter Datblygu Sianel, datblygu cynlluniau rhaglenni, amserlennu, cyflwyno a marchnata a fydd yn llywio cymeradwyaeth y BBC yng Nghymru, gyda'r targed o gyflawni cynnydd pellach yn y gyfradd gymeradwyaeth (7.1 ar hyn o bryd) erbyn diwedd 1999/2000.

Ti sydd wedi'n llywio ni'n ôl mewn ffordd nag wy'n 'i deall eto.'

'Twt lol, Modryb,' meddai he fel pe bai hi'n siarad efo Huw pan oedd o'n dychmygu pethau, 'dim ond sŵn y gwynt.' Trodd ei modryb a'i llywio'n ôl i gyfeiriad ei stafell wely gerfydd ei hysgwyddau.

A yw eu cyfraniadau'n llywio rhaglen ddysgu'r disgybl?

Nid fod ein dyled ronyn yn llai iddo ar ôl inni wybod hynny, oblegid cryn dipyn o orchwyl oedd llywio cwrs argraffiad diwygiedig hyd yn oed pan oedd rhywun arall yn gyfrifol am y diwygio.

Defnyddir graffeg a fydd yn gyfrwng i'r disgyblion ryngweithio ac ailadrodd ar orchymyn y tywyswyr'. Y tywyswyr' fydd yn llywio'r rhaglenni trwy leisio'r patrymau iaith a'r eirfa yn y Gymraeg.

Mae'r Grwp yn cefnogi defnydd cerrig mâl eilaidd am y rhesymau hyn a rhesymau eraill, ac eistedda Arweinydd y Grwp ar grwp llywio prosiect ymchwil o eiddo Adran yr Amgylchedd, ar ddefnydd a defnyddiau amgen ar domennydd gwastraff llechi a'r modd y gellid eu trin.

Tua chanol nos trawyd y llyw gan foryn a thorri y postyn llyw yn agos i gorff y llong fel yr oedd yn amhosibl i'w llywio.

Teimlai'i bod hi yn llywio a chyfarwyddo o "rhywle%.

Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.

Rydw i'n estyn y pethau o'r cefn efo un law a'u rhoi ar lin Bigw tra'n llywio'r car o'r garej yn ôl i lif y traffig.