Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llywodraethu

llywodraethu

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o Affrica, ni chafodd Ethiopia ei llywodraethu gan rym Ewropeaidd.

Rhyw grap ar ddaliadau'r Eglwys a ddiddymwyd yn ddiweddar, efallai, a'r afael ansicraf ar y Galfiniaeth y dywedir fod y Piwritaniaid sy'n llywodraethu gan mwyaf yn ei choledd.

Ynddi hi, craidd y bersonoliaeth, y mae'r ysgogiad sy'n llywodraethu ein hymwneud â'r holl arweddau amrywiol ar y bydysawd.

Dyma'r cyfnod pan berchid astudiaeth drylwyr o hanes yn gyfrwng ynddo'i hun i ddeall sut y dylid llywodraethu'n ddoeth a chyfiawn.

Mae'n rhaid trawsnewid diwylliant dwyieithrwydd o fewn gwleidydda a llywodraethu os ydym am gael mwy na façade ddwyieithog i Adeilad y Cynulliad.

Sonia am bobl sy'n arwain diwylliant yn llywodraethu syniadau am gelfyddyd:

Caiff ei llywodraethu gan glymblaid Llafur/Plaid Werdd, a'i hunig enwogrwydd hyd eleni oedd y ffaith fod llafnau cyllyll o safon yn cael eu cynhyrchu yno.

India a Pacistan yn eu llywodraethu eu hunain wedi 163 blynedd o reolaeth Brydeinig.

Ar hyd arfordir gogleddol yr ynys ceir cipolwg ar hanes amaethyddol pwysig Ynys Môn, gyda hwyliau Melin Llynnon yn llywodraethu dros Landdeusant ac yn parhau i droi hyd heddiw.

Dylid bod peirianweithiau i alluogi'r tîm o uwch-reolwyr a'r corff llywodraethu i fonitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag AAA.

Protestiodd Syr John Wynn mai ei brif uchelgais fel Swyddog lleol oedd cadw trefn a llywodraethu'n gytbwys a theg yn ei sir er iddo fethu â chyflawni hynny bob amser.

Y mae'r blaid eisiau gweld chwyldro yn null llywodraethu Iwerddon.

Yr abad oedd yn gofalu neu yn llywodraethu drosto.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn mae'r grwp wedi bod yn edrych yn fanylach ar y cwestiwn o sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu.

Dyma'r cyfle i drawsnewid diwylliant ieithyddol gwleidyddiaeth a llywodraethu Cymru.

Ond "cread" yw'r bydysawd i Bantycelyn a chread y mae'r Gwaredwr yn llywodraethu drosto.

Bydd yno gapel ac ysgol a senedd-dŷ a'r heniaith yn gyfrwng addoli a masnachu, dysgu a llywodraethu.

Dylid cael peirianwaith sy'n caniata/ u i uwch-reolwyr yr ysgol a'r corff llywodraethu fonitro a gwerthuso'r modd y dyrennir adnoddau, yn bobl ac yn ddeunyddiau, i gwrdd ag AAA.

Dyma un her i'r hinsawdd wleidyddol Gymreig newydd: creu diwylliant gwleidydda a llywodraethu yng Nghymru sydd yn weithredol ddwyieithog.

Roedd cryn wahaniaeth rhwng ymladd rhyfel guerrilla yn y mynyddoedd a llywodraethu gwlad gyfan.

O ganlyniad mae'r pwyslais ar gynorthwyo a gwasanaethu yn hytrach nag ar reoli a llywodraethu.