Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lolardiaid

lolardiaid

Gwyddys, yn wir, fod y Lolardiaid wedi dal i ddarllen eu Beiblau a pharhau i addoli yn y dirgel i lawr hyd at adeg y Diwygiad Protestanaidd.

Daliodd rhai o'r Lolardiaid, megis y Waldensiaid, i gwrdd yn y dirgel a darllen eu Beiblau hyd at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd.

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Un o'r pethau arbennig am y Lolardiaid oedd eu bod yn gosod pwyslais mawr ar awdurdod y Beibl a'u bod wedi'i gyfieithu i'r Saesneg.