Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lom

lom

Fe roddai darlun fel hwn flewyn o chwaeth i gegin lom Nefoedd y Niwl a thestun siarad am fisoedd i werin ddiniwed Bol y Mynydd.

Dan goed y goriwaered yn nwfn ystlysau'r glog, ar ddol a chlawdd a llechwedd, ond llechwedd lom yr og.

Mi âf oddi yma i'r Hafod Lom Er bod hi'n drom y siwrnai, Mi gaf yno ganu cainc Ag eistedd ar fainc y simne, Ag odid fawr mai dyma'r fan Y byddaf tan y bore...

Gwynn Jones yn Blodau'r Gwynt a Cherddi Eraill pan sgwennodd am Yr Hafod Lom:-

Oherwydd ei dywydd oer a'i olwg lom mae pawb yn falch mai mis bach ydyw.

Delweddau negyddol sy'n ein pledu yn ystod hanner cynta'r ffilm: yn wir, golygfa lom sy'n agor y ffilm wrth i Mona'r 'fenyw eis-crim' frasgamu drwy'r glaw fin nos i dŷ sinema'r Rex sydd a phoster uwch ei fynedfa yn hysbysebu'r ffilm nesaf a ddangosir: Coming Soon: Raiders.

Dyma ardal Hafod Lom - y gyrchfan unig bellach dan ddþr Cronfa'r Brenig...

Ond rhaid cydnabod mai tasg enfawr oedd ganddo, sef llenwi dwy golofn hir bob wythnos (o gofio beth oedd maint tudalennau'r Cymro bryd hynny), ac nid yw'n syndod iddo gael ambell wythnos lom.