Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lond

lond

TAI LLAWN Ar y briffordd allan o'r dre heibio'r Castell y mae fferm Felin Ysguboriau ac yr oedd yno lond ty - tri ar ddeg o bobl.

Mi fydda aelodau eraill llys Montezuma, hwythau, yn yfed rhyngddyn nhw lond dwy fil o gwpanau aur o siocled.

Wrth ochr y beddau roedd cwpwrdd gwydr enfawr a'i lond o benglogau'r trueniaid.

Cafodd lond bol ar hyn, ac aeth yn ôl i'r car a chyfnewid y gêr plu am gêr pysgota gwaelod.

I wneud hylif sebon rhowch lond cwpan o blu sebon (Lux neu unrhyw beth tebyg) mewn dysgl ac ychwanegwch ddŵr poeth.

Wedi llwyddo i gyrraedd man dewisol rhoddodd un morgrugyn bigiad da i ddathlu ei fuddugoliaeth a dyna'r eiliad y gollyngodd Odo lond dwrn o dai yn strim-stram-strellach ar hyd y rhos.

Awn allan ar fore Sadwrn gyda phwrs digon mawr a chyraeddwn adref â'i lond o arian.

Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.

Edrychodd yn fuddugoliaethus ar Nel ac ychwanegu gyda dirmyg lond ei lais, 'Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ein dau'.

Aeth popeth yn hwylus am flwyddyn, yna cafodd y peilot - a oedd yn ūr priod - lond bol ar y ferch a dywedodd wrthi am adael.

A minnau yn ymyl talcen gwesty bychan, daeth cerbyd â'i lond o Americaniaid heibio a chynnig fy nghludo hyd ben pellaf y ffordd.

"Bob", meddai hi, â gwên lond ei hwyneb, "mae yma chwe pharsel wedi dod i chi%.

Ges i lond bol o fon.

prifathro ata' i ar y diwedd hefyd a 'nghuro i ar fy nghefn a rhoi pat ar fy mhen i ac er bod taten boeth lond ei geg fe ddywedodd wrtha' i: 'We liked you most awfully but we thought your accent might militate againstyou in this type of establishment.

Helô, Rhys; a sut wyt ti, pwt?' gofynnodd i Mali a gwenodd Mali lond ei hwyneb.

Wele awdl a phryddest a roes imi lond calon o fwynhad ryw ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach.

Roedd tyndra lond yr awyr.

Prynodd ei thad lond lle o fefus imi.

A ma' 'i hannar o wedi colli i fy sgidia' i.' 'Hidiwch befo, mi ges i lond pisar o beth berwedig yn y ty pen, yn y rhes tai sy tu ôl i'r bus 'ma.' 'Tewch, welis i mo'r rheini,' meddai Ifan, yn teimlo'i hun wedi cael cawell.

Roedd gan Jabas yntau lond camera o luniau gwerthfawr.

Yn eu plith roedd hyd yn oed lond blwch o sbringiau o wahanol faint a chyda hwy llwyddodd y gof i adnewyddu hen ynnau nad oedd wedi cael eu tanio ers deng mlynedd neu ragor.

'Siân, wyt ti'n iawn?' gofynnodd Tudur a phryder lond ei lais.

Denver flino disgwyl i'w gyfaill, Joseph Nelson, symud ei gar o'i ddreif fel y tipiodd lond y car o goncrid.

Cyrhaeddwyd y lan yn hwylus ac fe gludiwyd y casgenni'n llafurus trwy'r wîg hyd nes y daeth pentref di-nod - rhyw lond dwrn o hofeldai ac eglwys i'r golwg.

Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.

Os coeliwch chi rai o aelodau seneddol y pleidiau eraill, cabinet moddion ydi Rod Richards, a'i lond o bethau gwenwynig.

Cofiaf lond ffridd o'r pabi melyn sy'n gyffredin i'r Grisiwn ac i Gymru.

"Mae'n dyled ni'n fawr i'n ffrindiau o'r Almaen," meddai, â balchder lond ei lais.