Tua thraean o longau 'D-Day' yn hwylio ymaith o borthladdoedd yng Nghymru.
Bu ef mewn amryw longau, rhai yn llwglyd, fel yr ydym wedi clywed sôn amdanynt, ac eraill â bwyd da a dywaid fod pob un o longau rhyw gwmni yn cael enw da am fwyd.
Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.
'Mae dyn wedi symud o longau hwylio i longau gofod o fewn un ganrif ac yn ôl o fewn y ganrif nesaf.
Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.
Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.
Argyfwng Vietnam yn dwysáu wedi ymosodiad gan Ogledd Vietnam ar un o longau'r Unol Daleithiau.
Ymunodd ag un o longau Porthmadog fel Mêt gyda chwech o griw.
Mintai o longau wedi bwrw angor ger y porthladd.
Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.
WE Jones,Caecerrig,Mynytho wedi hwylio ar y Neleus - un o longau'r Blue Funnel.
Roedd hyd yn oed rhai capteiniaid hen longau hwyliau y Cei yn uniaith Gymraeg pan oeddwn yn llanc yn yr Ugeiniau.
Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.
ychydig funudau wedi iddynt gyrraedd y bedol cyrhaeddodd llong huw, ac ychydig y tu ôl iddi longau ffred a gethin yn taro 'n ei gilydd wrth agosau, ac un wil yn rhuthro tuag atynt atynt fi sy 'n ennill !
Meddyliais yn siwr unwaith fy mod am gael lle ar yr SS LLanarth, un o longau Radcliffe.
Roedd o'n gofyn am drwbwl efo'r nifer yna o longau.
Aethai Einion (Capten Einion Roberts wedi hynny Llys Fair) i Hull i ymuno ag un o longau Radcliffe, sef yr SS Llandeilo, neu y Llanwern.
"Cei yrru neges ar y radio i longau eraill i ddweud am yr helynt," atebodd ei gapten.
Yn ogystal, ceir nifer o ffeithiau diddorol yn ymwneud â gwahanol agweddau o'r stori - er enghraifft hanes y crwban môr a gwybodaeth am longau fferi.
Mae hanes Môn yn frith o gyfeiriadau at longau a morwyr.
Y mae pob math o longau, bach a mawr, yn brysio yno i'w nôl adref," meddai peilot arall wrtho un bore.
Cyn gadael tir, dichon bod y rhan fwyaf ohonynt wedi clywed am longau tebyg a adawodd Afon Lerpwl ar ben llanw, ac nas gwelwyd byth wedyn.
Trodd Llio'r tudalennau a gwelodd fod rhestr faith o longau a disgrifiad ohonynt - mesuriadau, gwneuthurwyr, mordeithiau a'r hyn a ddigwyddodd iddynt.
Llyfr ydoedd am longau, eu gwneuthurwyr a'u capteiniaid ac roedd ynddo luniau o rai o'r llongau a hefyd adroddiadau manwl o'u teithiau.
Gwelem Mekong o'r awyren fel llinell arian yn llifo drwy'r wlad; mewn rhai mannau mae'n dair milltir o led ac yn ddigon dwfn i longau o'r môr mawr i hwylio i fyny cyn belled â Phnom-Pen .
Mae'n anodd credu'r peth, ond ychydig dros ganrif yn ôl roedd porthladdoedd Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gartref i gymaint o longau â holl borthladdoedd arfordir deheuol Lloegr.
Rhyngddynt, mae gan brifysgolion Prydain hawl i fynd i longau astudio eraill.
Pegwn y cywirdeb gwleidyddol gwallgof hwn yw cynnwys Cuba Gooding Jr fel cogydd du sy'n dipyn o baffiwr ar un o longau'r harbwr - cymeriad nad oes a wnelo affliw o ddim a'r stori ond bod ei angen i ddangos pa mor bositif yw Americaniaid pan ddaw hi'n liw croen.
Wrth ddarllen hanesion am longau hwyliau mae un peth yn sefyll allan yn amlwg iawn, sef pa mor amrywiol ydyw'r cymeriadau sydd yn gapteiniaid ar y llongau yma.
Aeth i'r mor yn ifanc iawn ar longau Porthmadog a go brin y medrai neb ddysgu dim iddo ef am fywyd y mor.
Mewn partneriaeth â Stena Sealink ym mhorthladd Caergybi, bydd yr Awdurdod yn ymgyrchu dros reoli arllwys sbwriel gan longau fferi yn y môr, ac yn dilyn y côd ymarfer da ar gyfer olew a arllwysir yn y môr.
Wrth agosa/ u ar y fordaith gartref am Sianel y Saeson yr oedd llawer o longau hwyliau yn curo yn erbyn gwyntoedd croesion a llawer ohonynt wedi mynd yn brin o fwyd.