Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lot

lot

'Dwi'n cofio un noson hwyr, hwyr iawn a ninnau'r hogia yn gwneud lot o sŵn fel arfer.

Mae e 'chydig bach yn ansicr - sa i'n gwbod lot am y peth.

Ar ôl cyhoeddi'r llyfr, mi fydd yna lot mwy o Gymry'n methu cysgu'r nos heb Valium neu ddau.

Roedd hi cyn naw y bore, yn pistyllio bwrw, ac yn oer, ond roedd yn lot o hwyl ac mae'n dda ar gyfer y gyfres.

Fe fydden dod a lot o waith ac fe fydden gwneud gwahanieth mawr i'r wlad.

Ro'dd parti wedyn, ro'dd Ronnie yna a John a lot o cyn-bencampwyr.

Mae lot o chwaraewyr newydd gyda ni ar y foment, chwaraewyr sy'n dod trwodd.

Fe ddigwydd lot o bethe oddi ar y bêl, hefyd, ac yr oedd yn amlwg oddi wrth sylwadau'r Saeson ar ôl y gêm bod nhw wedi cael tipyn o siom o golli gartre.

Ymhlith y grwpiau fydd yn cystadlu mae Estella, Evans, Zabrinsky, Texas Radio Band, Bob George, Something Personal, Cint, Angel, Alcatraz a lot mwy.

Mi wn i lot am foch).

Rhoddodd ddwy ddisprin a dwy fogadon yn yr Ofaltîn a'u cymysgu'n dda efo lot o siwgwr.

MELINAU GWYNT Mae'n bosibl y bydd gwlad fach Urmyc yn neisiach lle i fyw ynddi cyn hir oherwydd maen nhw wedi dechrau cael lot o felinau gwynt i chwythu'r cymylau a'r niwl a'r glaw i ffwrdd.

Doedd yna ddim lot o ddŵr, doedd y garthffosiaeth ddim yn gweithio'n iawn ond mi roedd yna falchder anhygoel gan y bobl yn eu dinas ac yn eu gwlad.

Argian mi oedd 'na lot o bobol o gwmpas, yn gweu drwy'i gilydd 'run fath â morgrug, a roedd 'na dipyn o hogia'r Armi hefyd, yn sefyllian ar y sgwâr.

Rwyn deall bod nhw'n siarad â sawl un a mae lot o ffordd i fynd cyn gallwn ni ddweud fod Graham wedi cael y swydd.

'Mae'r bechgyn i gyd mewn ysbryd da, ond maen nhw i gyd yn gwbod bod lot o waith ar ôl.

Maen na lot o hen ffraeo yn y byd actio yn Lloegr rhwng y crachactorion ar actorion mwy gwerinol hynny efo acen 'ranbarthol'. Rhwng y posh ar oiks i ddefnyddio'r termau technegol.

"Mae yna lot o fratiaith," meddai'r cynhyrchydd, Laurel Davies.

A mae e'n sgolar gyda'r mwya'r ffor' hyn ac yn siarad lot o ieithoedd.

"Mae yna lot o bethe r'yn ni'n gallu uniaethu 'da," meddai un arall o'r cymeriadau canolog, Dafydd Huws, sy'n arwain eisteddfod yn arddull gemau teledu.

Mi dala i'n ôl i ti, a hynny lot cynt na fyddet ti'n ddisgwyl.

'A fe gês i lot mwy o gyfle.

Ond mae lot o fechgyn eraill yn whare'n dda a ddim yn cael y sylw maen nhw'n haeddu.

Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.

Cafodd Dic lot o sbort ond gadawodd wrth i bobl y Dreth Incwm ddod ar ei ôl.

Yna byddwn i'n gwneud lot o arbrofion yn y tanc a bydd y cwch yn dechrau cael ei adeiladu ym mis Tachwedd.

'Os na ddaw rhywbeth o rywle - achos mae'r clwb wedi cael lot o gefnogaeth wrth noddwyr fel BT a'r Cyngor - bydd yn rhaid agor y drws i weld a oes rhywun mâs yna sy'n gallu cynnig help.

Rwy'n darllen lot olyfre cerddoriaeth.

Lot o rai bach yn weddol agos at ei gilydd er mwyn i'r Roman Soldiers fedru gweld y lle nesaf yn weddol fuan o achos y niwl bondigrybwyll.

"Oedd lot yn digwydd gyda'r grwpiau mawr yn Llundain, oedd hwnna'n ddiddorol.

Yr oedd yn bobl cyn hyn, a pharhâi i fod yn bobl, hyd yn oed mewn gwlad ddieithr, tra'r oedd ei nai Lot gydag ef.

Mae yna lot o gicio yn y stori hon ac os ydach chi ddim yn licio cicio peidiwch â darllan gam ymhellach.

'Dim lot,' meddai Meic gan geisio symud ychydig o'r brigau o'i flaen heb ddatgelu ei bresenoldeb i'r llengwr a safai ar ben y cnwc tua phymtheg metr i ffwrdd.

Dwi'n gwneud lot o bres oddi ar gefn yr lancs a'r 'bobl bach'." Es i siop yn Tra/ Li a gofyn i'r hen wreigan y tu ôl i'r cownter a fuasai'n gwerthu crib gwallt imi.

A does dim lot o amynedd gan gefnogwyr na pherchennog Caerdydd a sa i'n synnu dim na fydd pethe'n newid.

Mae lot o ffrindie 'da fi yn Llanelli.

'Mae'n neis gweld Cymry mâs yma a maen nhw'n sgrechian drosto i a mae lot wedi dod i ddilyn y tîm.

Dyw e ddim yr un peth â pherfformio o flaen cynulleidfa fyw, chi ddim yn cael yr un ymateb." Er hynny dyw hi ddim yn edifar gadael Bobby Wayne a'r byd cabaret: "Er bod Bonnie yn fyd-enwog, rwy'n eitha' hapus gyda'r gŵr a'r bechgyn a'r tŷ ac rydw i wedi gweld lot o'r byd.

Mae ambell i grŵp sydd â lot o Saesneg, felly rydym yn dysgu gramadeg Saesneg iddynt.

Dyna pryd mae pobl yn draddodiadol yn gwario lot o arian!' Un siom i Ankst yw cyn lleied o gasetiau sy'n cael eu gwerthu mewn dawnsfeydd; mae'n amlwg fod gwario pedair neu bum punt ar gase/ t ar ben tocyn ac arian cwrw yn ormod gan rai.

"Y peth mawr cynta' i fi wneud ar y teledu oedd y ffilm gomedi Smithfield ac wedyn fe ges i lot o rannau bach.

"Dwi'n gwybod bod 'na lot gormod o siarad am addysg yn yr ysgolion gan bobol Prifysgol sy'n gwybod dim am y peth ond mae gen i gydymdeimlad ag athrawon dosbarth chwech dan drefn newydd pethau.

Mynd i'r sinema lot.

Sdim lot o dryst yn yr Emma 'na.

'Bydd yna lot o gystadlu am le yn y tîm y tymor yma.

Roedd diffyg awch yn chwarae Cymru, doedd dim parhad, lot o arafwch yn y gwaith adeiladu.

I Begw, mae'r eira sy'n ymestyn i'r pellter 'fel crempog fawr a lot o dyllau ynddi a chyllell ddur las rhyngddi a Sir Fôn' (Te yn y Grug).

'Rwi i wedi siarad lot gyda Phil Davies a dwi ddim yn siwr os oes rhywun wedi bod yn siarad ag e.

Mae Jeff Jones ac Allan Watkins wedi whare lot o weithie i Loegr ond mae records yna i'w torri.

Wrth gwrs, mae'r intifada wedi newid lot o betha.

Achos y mae yna lot fawr mwy o siwgwr mewn siocled plaen - neu byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi bron â bod yn amhosib ei fwyta fo am 'i fod o mor chwerw!

'Rydych chi'n gallu ca'l lot o ymarfer yn y rhwydi - ond y peth pwysig yw cael amser mâs yn y canol.

'Mae yna lot o rygbi i'w chwarae cyn taith y Llewod, gan ddechrau i Lanelli yn erbyn Caerdydd.

"O'n i'n joio'r cabaret gymaint, o'n i'n cael cyfle i deithio lot ar y syrcit.

Cofiodd am bechod gwraig Lot, a chwarddodd.

Y math hynny o blant sy'n mynd a lot o amser athro ond dim llawer ganddo i'w ddangos wedyn ar ôl ei holl ymdrech.

Bydd yno lu o grwpiau yn cynnwys Estella, Zabrinsky, Texas Radio Band, Something Personal, Cint, Angel, Alcatraz a lot mwy.

'Ond mae Maher wedi dangos bod lot o dalent gydag e.

Er hynny mae tîm arbennig o dda gyda ni ar y funud - Phil Simmons a Steve Barwick wedi whare lot o geme ar y safon uchaf.

Roedden nhw'n lecio'r Romans yn fawr iawn ac mi wnaethom nhw ddwyn lot o'u geiriau nhw yn enwedig rhai diflas fel ysgol, disgybl, llyfr, eglwys ac esgob ac yn y blaen.

'Mae Rupert a Guy wedi bod yn arbennig o dda yn helpu fi - maen nhw wedi dysgu lot i fi dros y flwyddyn.

o'n i ofn iddo fo syrthio, ac mi oedd 'na lot o bobol er'ill yno'n dal 'u gwynt, ofn i rywbath ddigwydd iddo fo.