Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

loyw

loyw

Mae mabwysiadu polisi sy'n datgan mai Cymraeg yw cyfrwng addysg adran y plant bach yn hollol anhepgorol os yw Cymraeg y Cymry i'w chadw'n loyw.

Mae'n anlwcus chwarae cardiau mewn stafell os bydd ci yno ac ni ddylid chwarae cardiau ar fwrdd sydd â'i wyneb yn loyw.

Gwelai Myrddin Tomos orffennol ei fywyd yn loyw o flaen ei lygaid, cwrs ei flynyddoedd yn eglur, fel caeau sofl tan loer y cynhaeaf.

Yma y mae Ruskin a Carlyle, Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan, Rousseau a Ghandi a Francis Thomson, wedi eu cludo yma yn berlau gan rywun a'u gwelodd yn rhywle ac a'u cododd ac a'u cadwodd yn loyw lân lathraid.

O flaen y tan roedd 'na ffendar loyw, lan.

Perthynai Cwm Tryweryn a Chapel Celyn i Benllyn, lle y mae'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn dal yn loyw

Roeddent yn loyw wlyb rhwng ei gwefusau main, gor-dyn.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.