Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lu

lu

Ond buont yn ein tŷ ni ryw dro, a gadawsant rywbeth ar eu hôl, ac y mae darllen yr hyn a sgrifenasant yn eu dwyn i gof - pwy, sut, o ba le, yr oeddynt, ac yn sgîl hynny lu o bethau eraill.

Clywsom am lu o gymeriadau Llanrwst - felly gwyliwch hi bobl Llanrwst - ynghyd â jôcs am y Bwrdd Croeso, yr Heddlu, Thatcher, a...

Rydym yn wynebu sialensau lu yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Darllenai lawer am y darganfyddiadau a'r damcaniaethau diweddaraf, yn arbennig ynghylch y gronynnau sylfaenol yng nghnewyllyn yr atom, am bethau fel cwarcod, newtrinod, positronau a'r holl lu rhyfeddol sydd, rai ohonynt, yn medru bod a pheidio a bod ac ail-fod i gyd ar yr un gwynt, fel petai.

I lawn ddeall prosesau'r môr, mae'n rhaid galw ar ymchwilwyr o lu o wyddorau "traddodiadol" megis cemegwyr, biolegwyr, ffisegwyr, daearegwyr a mathametgwyr.

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

'a byddai pregethau lu ar ei gof yn cael eu gweu yn sgwrs ddiddorol, tra byddai nhad yn porthi yma ac acw fel bo cyfle, a chario ymlaen â'r gwaith yr un pryd.

Ni all neb wadu ychwaith nad yw bod yn ddinesydd Prydeinig, o gymharu a bod yn ddinesydd Cymreig, wedi cynnig inni fanteision lu.

Roedd yn hanfodol fod y gwaith a wneid yn y grwpiau, a rhwng cyfarfodydd, yn cael ei ddyblygu, a chofnod yn cael ei gadw o'r penderfyniadau lu.

Cynnwys lu mawr o gerddi rhagorol a erys yn eu blas tra pery'r iaith ac nid y rhan lleiaf pwysig o'r gyfrol, o ran glendid arddull a graenusrwydd cynnwys, yw'r Rhagymadrodd.

Fe'i cefnogwyd gan gannoedd o gynghorau lleol a chan lu mawr o fudiadau, cyrff crefyddol, undebau llafur a chymdeithasau o bob math.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr William Hague wedi beirniadu cynlluniau i gynnwys miloedd o filwyr Prydeinig fel rhan o lu ymateb cyflym Ewropeaidd.

Yn y gynhadledd cytunwyd ar ddau dealltwriaeth, un ohonynt ar Newid Hinsawdd sy'n ymdrech i reoli y difrod i'r atmosffêr, a'r ail yn Ddealltwriaeth ar Amrywiaeth Bywydegol (Biodiversity) - sy'n clymu llywodraethau'r Byd i amddiffyn ein rhywogaethau lu.

Fel sy'n digwydd yn aml, gwna esgusion lu dros ei ymddygiad yn bersonol ac yn breifat gan ei beio ei hun yn aml.

man inni roi'r ffidil yn y to, gan na fyddai ond y canolfannau poblog lle mae adnoddau lu ar gael yn addas ar ei chyfer.

Gwyddai Mrs Pamela Shepherd mai Duw oedd wedi ei dysgu sut i ddidoli'r bratiau a dywedodd hynny wrth gyfeillion lu o weithiau yn ddiweddarach.

Ceir ynddo'r hanes am godi William Phylip, pan orchfygodd Cromwell lu'r Brenhinwyr, yn ben trethwr i gasglu arian i fyddin Cromwell mewn un rhan o Ardudwy.

Fyth oddi ar hynny bu ei ddiflaniad yn boen meddwl i'w deulu ac yn ddirgelwch i'w gyd-filwyr a'i lu cyfeillion.

Fe'i heclodd droeon, ymosododd arno yn y wasg ac ar lu o raglenni teledu a radio.

Dynes hawddgar iawn oedd Mair ac yn uchel ei pharch gan ei ffrindiau lu a'i chydnabod.

Yng ngolwg llaweroedd, dychmygol yn unig oedd y rhagfuriau rhwng Lambeth a'r Fatican, a derbyniodd Esgob Bagot, Rhydychen, lu o lythyrau yn galw am ddiswyddo Newman.

Mae'n arbennig o falch gyda pherfformiad cyffredinol rhaglenni BBC Cymru, ac mae hyn wedi ei gydnabod gan lu o wobrau gan y diwydiant.

Trwy wneud hyn, wrth gwrs, roeddynt yn mentro i fyd o eira a rhewfryniau, ac yn nyddiaduron teithwyr y cyfnod cawn lu o gyfeiriadau at y cyffro ofnadwy yn eu mysg wrth edrych allan a gweld eu llongau yng nghanol cylch oi rewfryniau uchel.

Ymhlith y cynlluniau lu sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol y mae un i ddod a Chymru i sylw y miloedd o bobl sydd yn heidio i Wyl Siopio enwog Dubai bob blwyddyn.

Mae problemau lu gan Loegr ar ôl colli yn erbyn Yr Almaen a'r rheolwr Kevin Keegan yn ymddiswyddo.

Nid nepell o'r fan hon ar hyd yr arfordir y mae safle'r ymosodiad olaf a wnaed gan lu tramor ar dir y Deyrnas Unedig.

Roedd gan Llewellyn fwy o ddiddordeb ym mrithluniau pobl am y gorffennol nag yn yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, ac oherwydd hynny, efallai, fe lwyddodd ef i greu darlun mythaidd o gymdeithas, yn gymysgfa o drais a haelioni, o dlodi a dioddef a brawdgarwch, a fu'n faeth i lu o ddehonglwyr ar ei ol, mewn rhyddiaieth ac mewn cerdd.

Bu'r traddodiad llenyddol Cymraeg yn hoff iawn o haniaethau llachar, weithiau'n wirebol, dro arall yn ddim ond addurnol, a byddaf yn meddwl am lu problemau Cymru yn y termau hynny.

Bydd yno lu o grwpiau yn cynnwys Estella, Zabrinsky, Texas Radio Band, Something Personal, Cint, Angel, Alcatraz a lot mwy.

O ganlyniad i'r trefniadau presennol, mae problemau dosbarthu yn amlygu eu hunain yn aml, gydag enghreifftiau lu o drafferthion ynghlwm wrth y broses o gael adnoddau o'r canolfannau neu'r cyhoeddwyr i'r ysgolion.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

Y mae'r profion medrusrwydd wedi bod yn bwysig ac yn addysgiadol i lu mawr o fechgyn a genethod y Sir ac y mae dyled y mudiad i hyfforddwyr ymroddedig yn fawr.