Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.
Yn dilyn y rali bydd nifer o aelodau'r Gymdeithas yn cychwyn ar daith gerdded i Lundain i gyflwyno'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd i'r senedd yn San Steffan.
Cynlluniwyd y rhan fwyaf o'r twf hwn i gartrefu pobl a oedd am symud allan o Lundain a byw yn y wlad.
Ar ôl gadael pencadlys Vodafone bydd gan y cerddwyr daith o 60 milltir o'u blaenau i Lundain lle y cyflwynir sgrol i swyddfa Paul Murphy sy'n galw ar i'r Senedd ildio'r hawl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael deddfu ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.
I'r garej honno un diwrnod y daeth Harri Gwynn, oedd newydd symud o Lundain i Roslan i ffarmio - i gael bandiau brêc i'w gar, a chael Wil Sam yn ei wely dan y ffliw.
I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas.
Roedden nhw wedi teithio'r holl ffordd o Lundain yn y car, a theimlai'r pedwar dipyn yn flinedig.
Symudodd JE o Lundain i Gaernarfon, ac mewn ystafell tu cefn i Westy Pendref lle lletyai bu Swyddfa'r Blaid nes y symudodd yn ddiweddarach i ystafelloedd ehangach yn Heol y Castell.
50 o awyrennau'r Luftwaffe yn ymosod ar Lundain ac yn lladd 1,400.
Heddiw cyfarfu dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - oedd ar daith gerdded o Gaerdydd i Lundain dros Ddeddf Iaith - â chwmni ffôn symudol Vodafone.
"Dywedwch, gefnder, beth ydy'r hanes diweddaraf o Lundain?" "Wel rhoswch.
A dyna Robert Hughes Uwchlaw'r Ffynnon, a anturiodd Lundain i borthmona, ond a ddaeth adref yn ddyn newydd, wedi'i danio gan yr Efengyl.
Ar y daith i Lundain mae aelodau'r Gymdeithas wedi bod yn ymweld â nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt â phen y daith, gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.
Bydd y rhaglen ar Fehefin 30 yn teithio i Lundain am y tro cyntaf yn hanes y gyfres, a ddechreuodd yn 1993.
Roedd wedi galw yn nhŷ Ali fore dydd Gwener pan ddywedodd Ali wrtho fod Mary wedi mynd i Lundain ac iddo roi decpunt iddi.
Erbyn hyn aeth yn agos i ddau gan mlynedd heibio oddiar i ūr bonheddig o'r enw George Bowser ddod i lawr o Lundain i ardal Penbre, yn yr hen Sir Gâr, gyda'r bwriad o gychwyn y diwydiant glo yno.
Yr oedd golwg lewyrchus ar Lundain a'r canolbarth a siroedd de-ddwyrain Lloegr tra oedd y drefedigaeth Gymreig yn llusgo byw dan amrywiaeth o enwau a'i galwai yn bopeth ond yn famwlad cenedl.
* * * * * Fel yr oedd Llefelys wedi addo yn ei lythyr, aeth i Lundain i weld Lludd yr wythnos ganlynol.
Yn ystod blynyddoedd y rhyfel pan oedd y BBC wedi symud i Fangor o Lundain a chungherddau yn cael eu darlledu o'r hen County Theatre, yno yr oedd organ fawr y BBC yn cael ei chwarae gan yr enwog Sandy McPherson.
Symudodd oddi yma i Lundain, yna i'r Cei Newydd, ac wedi hynny i Bontyberem.
Fe ddygir pen Brên i Lundain ar draws hen ffordd a ddefnyddiwyd gan adeiladwyr Stonehenge.
Gwahoddwyd cynulleidfaoedd Cymreig i ymuno yn awyrgylch Last Night of the Proms gyda chyngerdd a chyswllt arbennig i Lundain.
Achos brwydr am yr hawl i Lundain redeg ei phethau ei hun ydi un Ken Livingstone a'r gweddill.
"Oeddan nhw eisio rhywle a oedd yn edrych yn debyg Cheapside yn Llundain ers talwm ac er nad oeddan ni wedi meddwl bod Caerffili yn debyg Lundain, ryden ni'n falch iawn eu bod nhw wedi dod yma.
Gorymdaith y di-waith yn cerdded o Lerpwl i Lundain.
Er diogelwch, y BBC yn symud eu hadran adloniant o Lundain i Fangor.
Mae ymrwymiad y darlledwr i newyddion yn parhau i fod yr un mor gadarn ag erioed (ystafell newyddion BBC Cymru yw'r ail fwyaf y tu allan i Lundain) a gweddnewidiwyd y ddwy brif raglen newyddion teledu, Wales Today a Newyddion, gyda set stiwdio newydd, teitlau agoriadol a cherddoriaeth newydd sbon.
Ar ôl y prawf yng Nghaernarfon, yn fwy wedyn ar ôl y cais am symud y prawf i Lundain, ac yn enwedig ar ôl y ddedfryd yn Llundain, yr oedd y gwynt yn troi i gyfeiriad y Blaid; ond ni chariodd y gwynt hwnnw moni i'r hafan ddymunol.
Roedd blodau prydferth ar bob sil ffenestr ac agorwyd yr eglwys gan bregethwr gwâdd o Lundain.
Diau y bydd yn rhaid imi anfon i Lundain amdano.
Yn ogystal â mynd i Lundain mi fydd rhai o'r gweithwyr dur yn mynd i'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac i'r Senedd yn yr Alban.
200 o ddynion di-waith yn cychwyn ar eu gorymdaith o Jarrow i Lundain.
Cadwai olwg ar y datblygiadau diweddaraf ym Mhrydain ac Ewrop trwy gylchgrawn The Studio a thrwy bicio i Lundain yn aml i weld arddangosfeydd.
Rhyw ffyrm o Lundain oedd perchnogion y chwarel.
Wrth deithio i lawr yn y tren i Lundain gobeithiai Hector fod ei gyd- deithwyr yn canfod arno arwyddion teithiwr profiadol, ac yntau wedi gosod label 'PARIS' yn amlwg ar ei fag.
Dywedodd Huw Lewis, un o arweinwyr yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith, wrth baratoi am y daith gerdded gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg: 'Yr ydym wedi troi ein taith gerdded o Gaerdydd i Lundain yn daith noddedig er mwyn i'n cefnogwyr gael cyfle i gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ariannol.
Ymddeolodd yntau o'r mor tua'r un adeg ag y dychwelodd Snowt o Lundain, a chan eu bod yn dioddef o'r un syched, aeth y ddau'n dra chyfeillgar, a phan drowyd Sam dros yr hiniog gan wraig ei lety rhannodd Snowt ei lety gydag ef.
Ar y daith i Lundain fe fydd aelodau'r Gymdeithas yn ymweld a nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt a phen y daith gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.
Rhyfeddach lawer yw fod y Methodistiaid, gan nad oedd pwysau ariannol o Lundain arnynt hwy, wedi penodi tri athro nad oeddynt Gymry i'w coleg yn Y Bala.
Ond erbyn deall nid ser Hollywoodaidd fydd y lladron hynny ond dynion o Lundain bell yn dod i roi taw ar yr hen sinema, yr olaf o blith pump a fu yn y dref - Aberdar - pan oedd hi'n oes aur ar y pictiwrs.
Y mae fy chwaer yn cymudo i Lundain bob dydd.
ARLOESWR YM MYD DIWYDIANT Erbyn hyn aeth yn agos i ddau gan mlynedd heibio oddiar i ŵr bonheddig o'r enw George Bowser ddod i lawr o Lundain i ardal Penbre, yn yr hen Sir Gâr, gyda'r bwriad o gychwyn y diwydiant glo yno.
Roedd Nadolig 1998 yn Nadolig BBC Cymru mewn sawl ffordd ar deledu rhwydwaith gyda llu o raglenni gan dîm cynhyrchu cerddoriaeth BBC Cymru - unig Ganolfan Ragoriaeth benodol y BBC ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth y tu allan i Lundain.
O Lundain y daeth y swmperi duon oedd am y ddau heno.
Dychweliad yr Efaciwi Yn ddiweddar roedd ymwelwr o Lundain yn y pentref.
Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond un awyren achlysurol a fyddai'n teithio yno yn ôl y galw o Lundain; erbyn heddiw, gellir hedfan i Krako/ w bob dydd o Heathrow, ac er nad yw'r maes awyr yn fawr iawn, mae'r adeiladau yn welliant sylweddol ar y sied a gofiaf.
Wedi teithio i Lundain ar y trên roeddwn i i nôl y plant, a oedd wedi bod ar eu gwyliau yn nhŷ Dam-cu a Mam-gu yn Surrey.
Ymddengys bod y pêl-droediwr Frank Lampard Junior ar fin symud o un pen o Lundain i'r llall - o Barc Upton i Stamford Bridge.
Miloedd o lowyr yn gorymdeithio i Lundain mewn protest yn erbyn y bwriad i gau 31 o lofeydd a cholli 30,000 o swyddi.
Gofynnwn i chi ddangos yma eich bod yn ymateb i anghennion Cymru'n hytrach na dilyn yn gaeth y llwybr o Lundain''.
Bythefnos yn ôl, fe ddechreuodd cwmni Miramax droi Castell Caerffili i fod yn rhan o Lundain yng nghyfnod y Brenin Siarl ll yn yr ail ganrif ar bymtheg.
60,000 o swffragetiaid yn gorymdeithio drwy Lundain.
Dywedai cofiannydd Henry Jessey, y gwr a ddaeth i lawr o Lundain i helpu Wroth a Chradoc sylfaenu'r eglwys, ei bod yn "dra enwog am ei swyddogion, ei haelodau, ei threfn, a'i doniau% ac, fel y cawn grybwyll, yr oedd ei haelodau'n ei chael yn hawdd i ymarfer eu doniau ar led.
Gwneuthurwr ffilm o Lundain a gafodd Gymrodoriaeth Ffilm Gydwladol Cyngor Ffilm Cymru eleni, ond prin mai i'r diwydiant ffilm Prydeinig y perthyn gwaith arbrofol ac ymosodol Peter Greenaway.
Bellach 'roedd y cyfan yn dibynnu arnynt hwy, ac ni fynnent adael i'r amgylchiad fynd heibio heb ddangos i Lundain eu bod o ddifrif.
Cafodd ei addysg mewn ysgol elusennol yn Llanfechell, ac yno dangosodd gymaint o ddawn mewn rhifyddeg nes i'r meistr tir, Arglwydd Bulkeley, ei anfon i Lundain.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd agweddau tebyg i'w gweld gyda gwaith dramatig llawer llai pwysig - fe brotestiodd Cymry Cymraeg yn chwyrn ar ôl i'r ffilm Smithfield awgrymu fod Ffermwyr Ifanc ac eraill yn meddwi a mercheta yn ystod eu taith i Lundain.
Cyfeiriodd rhai eu camrau tuag at yr Alban ond y rhan fwyaf yn anelu am Lundain.
Dywedodd Huw Lewis un o arweinwyr y cerddwyr, ' Hyd yn oed os yw'r prinder tanwydd yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio i Gaerdydd i ffarwelio â ni, ac hyd yn oed os collwn ni ein cerbyd wrth gefn, fyddai yn ein gorfodi i gario ein holl baciau ar ein cefnau, yr ydym yn benderfynol o fynd yr holl ffordd i Lundain.
Mae rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith ar daith gerdded i Lundain i gyflwyno'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd i'r senedd yn San Steffan.
Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.
Y mae hithau o fewn cyrraedd hwylus o Lundain gyda thrên neu fws neu fodur ac yn naturiol ddigon arian y brifddinas a'i gwnaeth hithau, fel y lleill, yn fagnet haf i'r cannoedd.
Llawer gwaith y bu+m yn eu canlyn i Lundain nes y deuthum i wybod y ffordd yn iawn.