Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwch

lwch

Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.

Honnir ar siaced lwch Y Gaeaf Sydd Unig Marion Eames, er enghraifft - nofel sy'n trafod cyfnod Llywelyn Ein Llyw Olaf : Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswyddau a marwolaeth.

Y cwdyn a ddaliai lwch dannedd Berwyn y Ddraig!

Felly o lwch y Nationalistische Front (y Ffrynt Genedlaethol) cododd y Sozial revolutiona%re Arbeiterfront (Ffrynt Cymdeithasol Chwyldroadol y Gweithwyr).

Achosodd y gronynnau o lwch i'r machlud ledled y byd fod yn annaturiol o goch am gyfnod maith.

Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.

Fodd bynnag, sylwyd gyda'r ddau hyn nad oedd hynny'n digwydd, a'r rhesymeg tu ôl i hynny oedd fod yr haen o lwch llif yn cadw gwres yr haul rhag treiddio i mewn i'r ddaear a'i chynhesu a symbylu bacteria i gyflawni eu gwaith o gynhyrchu yr elfen nitrad sy'n gyfrifol am greu swm o dyfiant.

Mynnai Modryb, ar ôl estyn bocsaid mawr iawn o hencesi papur o'i ches, mai am fod yna lwch rhwng cynfasau'r gwely roedd hi wedi tisian.

Cododd cymylau o lwch i'r aer a dechreuodd tanau bach hwnt ac yma, ond diolch i rybudd gwyrthiol yr anifeiliaid ni chafodd unrhyw un ei anafu.

Ond mân lwch y cloriannau oedd ei ddioddefiadau ef o'u cymharu â'r profedigaethau personol a'i lloriodd.

'Paid â bod yn grinc,' meddai Nel yn closio ato fo ac yn sychu tamad o lwch o'i foch hefo bys sidanaidd.

Siaced lwch ar rai o hyd, ac eraill yn llyfrau clawr-papur a hen ôl traul arnynt.

Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.

Nid rhyw Ffenics adeiniog o obaith ac ymroddiad, ffydd a phenderfyniad a gododd o lwch y tan yn Llŷn, ond iargyw o bryder ac ofn a thaeogrwydd di-asgwrn cefn.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

Anialwch o lwch a chreigiau yw llethrau'r mynydd, heb ddim yn tyfu arnynt na dim yn symud drostynt, ddim hyd yn oed fân greaduriaid ac ymlusgiaid.