Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwgu

lwgu

Wedi'r cwbl, doedd dim disgwyl i'r bechgyn lwgu nes iddynt gyrraedd adref i Surrey.

Cario bwyd i fyny i lwgu yw peth fel hyn.

Penderfynais yn y fan a'r lle y byddwn i'n gadael rhan o'r pryd bwyd nesaf ar ochr fy mhlât er mwyn i Mam boeni tipyn 'mod i'n sâl, ond pan ddaeth amser swper o'r diwedd roeddwn i ar lwgu ac mi lyncais bob tamaid.

Yr oedd pawb ar lwgu, ond tra oedd eu mam yn paratoi pryd o fwyd - rhywbeth rhwng te a swper - aeth y plant i gyd allan, croesi'r ardd ffrynt ac i'r cae.

'Ti isio bwyd?' 'Jest te.' 'Mi gei di jips a ffish hefyd rhag ofn i chdi udo'n bod ni wedi dy lwgu di.' Daeth y sglodion a'r sgodyn yn fôr o saim mewn papur newydd.