Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwyddo

lwyddo

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Ni allai'r ysgwieriaid godi ond ar draul y mân wŷr rhyddion ar y naill law a'r caethion ar y llaw arall (er i rai o'r rheini lwyddo i oresgyn pob anhawster a thyfu'n ysgwieriaid eu hunain).

Y mae pennod gyfareddol Dr Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn yn ymdrech ddisglair i wneud hynny a daw'n agos at lwyddo pan yw'n trafod pregethwyr a glywodd ei hun.

Rwyt ti'n siwr o lwyddo." Cofiodd yn sydyn hefyd am yr hyn a ddywedodd un capten llong wrtho unwaith pan oedd yn forwr ifanc iawn.

Camp yr awdur y tro hwn yw iddo wrth greu nifer o gymeriadau, pob un yn afiach yn ei ffordd fach ei hun, lwyddo i gynnal diddordeb y darllenwr.

Integreiddio Polisiau: I lwyddo i greu newid yn yr amgylchedd, mae angen fel arfer integreiddio gweithgareddau ar draws ffiniau strwythurol, proffesiynol a daearyddol.

Mae'n amlwg mai hollalluog ac anfeidrol fyddai'r unben hwnnw a allai gyflawni'r holl oruchwylion ar ei ben ei hun, gan lwyddo i wneud hynny'n ddidragwydd ddydd ar ôl dydd drwy gydol y flwyddyn.

Y prif gwestiwn oedd nid sut allai Duw, yn rhesymegol, lwyddo i ddod yn ddyn, ond sut allai dyn marwol ennill anfarwoldeb neu ddyn pechadurus gael ei gymodi â'r Duw sanctaidd?

A chododd hyn fymryn o eiddigedd yn ei fynwes ef rhag i rywun arall lwyddo i ladd Ap o'i flaen.

Ac roedd hi am iddo lwyddo.

Mae'n rhaid iddo lwyddo.

Os yw'r ail iaith yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn mynd i lwyddo, yna bydd yn rhaid darparu elfen o ddysgu dwyieithog ym mhob ysgol uwchradd yn y wlad, nid y rhai swyddogol a naturiol ddwyieithog yn unig.

Mi gewch chi ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur bach newydd yma lwyddo i swyno'r darllenwyr yn ty ni.

Roedd yn anodd ganddo gredu i'r tri swyddog lwyddo i gyrraedd diogelwch, ac am y dynion a adawyd ar ôl, roedd yr ergyd a glwyfodd y morwr wedi diasbedain fel dedfryd angau yng nghlustiau Dai Mandri.

Yn ystod y pedair blynedd y bu+m yn cyfrannu erthyglau garddio i'r cylchgrawn soniais droeon am fethiant rhai planhigion i lwyddo ym mhresenoldeb gwynt hallt o'r môr.

Mae lle i berson gyda'ch math chi o gyfrifoldeb gael ei apwyntio yng ngweddill ysgolion uwchradd Cymru, yn arbennig felly yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf, os yw addysg ddwyieithog i lwyddo.

"Ond rwy'n cael motor beic os wna i lwyddo.

Gyda charfan o osodwyr plât yn y blaen, rhuthrodd y picedwyr at yr heddlu a'r milwyr, gan lwyddo i ailfeddiannu'r groesfan Gofynnodd y Capten Burrows i Thomas Jones ddarllen y Ddeddf Derfysg, ond-gwrthododd Jones gan nad oedd y trais yn ddigon i gyfiawnhau gwneud hynny.

Dyna felly lwyddo o'r diwedd y polisi a osodwyd yn nod i Lywodraeth Loegr yng Nghymru yn y mesur a elwir yn Ddeddf Uno Cymru a Lloegr yn y flwyddyn 1536.

Lle methodd y milwyr, fe all hi lwyddo.

'Dal nhw!' medda fi wrthi a dyma lwyddo i gael gafael ar lawer ohonynt, ond hedfanodd y gweddill i ffwrdd gyda'r awel.

Mae'n wir i'm mam lwyddo i roi enw 'crand' i'm brawd a aned dair blynedd o'm blaen, a chofiaf iddi ddweud wrthyf beth oedd yr enw hwnnw.

Buom wrthi am fisoedd yn paratoi ar gyfer yr achlysur arbennig hwn, a than y fath amgylchiadau yr oedd yn wyrthiol inni lwyddo i wneud cymaint.

Ar yr un pryd, mae maint a chyflymder newid yn rhoi herion difrifol y mae'n rhaid eu goresgyn os yw Cymru i lwyddo yn y mileniwm newydd.

Adeiladu ymwybyddiaeth o Ryddid i Gymru mewn Addysg. Cylchgrawn 'Rhyddid' -- heb lwyddo i'w gyhoeddi.

Fe gollon nhw 2 - 0 yn Sbaen neithiwr ond fe lwyddo nhw i ddal gafael diolch i'w buddugoliaeth 3 - 0 gartre a sicrhau gêm gyda Valencia ddechrau Mai.

"Ond chwarae teg iddyn nhw, cadwent yn glos wrthym ni'n dau rhag ofn i rywun neu rywbeth ddod i'n rhwystro rhag mynd yn ein blaenau." "Ddaru chi lwyddo i gadw'n effro wedyn?" gofynnodd Louis.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

Serch hynny, ni all y Bwrdd lwyddo o gwbl yn ei waith heb gydweithrediad eraill, ac mae rhychwant y cyrff a'r unigolion sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith neu sydd â diddordeb ynddi yn eang iawn.

Ac felly wedi i Owain lwyddo i weld moto-beic a phont a ffôn a methu'n lân â gweld car heddlu, rhedodd Carol allan o syniadau ac o amynedd.

Ac y mae'n amheus gennyf a wnan nhw lwyddo chwaith.

Bron nad oes angen cofnodi i Phil drosi'r gais, gan iddo lwyddo saith gwaith gyda saith cic y prynhawn hwnnw.

Rydym yn cydnabod yr anawsterau wrth herio'r status quo ond yn fodlon cymryd cyfrifoldeb i geisio newid y drefn ac yn benderfynol o lwyddo. 02.

Haws dweud na gwneud, mi wn, ond o lwyddo i ffrwyno yna prin yw dewisiadau ymosodol Lloegr.