Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwytho

lwytho

Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.

Gellwch lwytho estyniad Shockwave i lawr o safle Macromedia.com.

Ymhen ychydig ddyddiau wedi i'r merched droi am adref hwyliodd y Maritime o Gaerdydd i Abertawe i lwytho ac o'r fan honno wedyn am borthladd pellennig.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

Gellwch lwytho RealPlayer i lawr o wefan cwmni Real.com.

Hen ŵr a dau o blant yn cerdded ar lwybr ar lan y dŵr, gan lwytho gwiail ar ei ben.

Un arall oedd y Teifi, llong Capten Robert Roberts Mynytho (Robin Carmel) a ddeuai fel amryw o rai eraill i lwytho ithfaen o chwareli Llanbedrog.