Yn unol â hyn cawn yr Athro W J Gruffydd yn maentumio fod tri chyfnod yn hanes barddoniaeth pob gwlad, sef, i ddechrau, gyfnod barddoniaeth lwythol, yn ail, cyfnod ymledu pryd y derbynnir dylanwadau allanol, ac yn drydydd, cyfnod ymdeimlad cenedlaethol dwys, megis cyfnod Shakespeare yn Lloegr a chyfnod Goethe yn yr Almaen.