Pan oedd Mam wrthi'n rhoi'r sêl ei bendith ar yr Horlicks, a gwên fawr lydan ar ei hwyneb am y tro cynta'r diwrnod hwnnw, daeth sgrech iasol o'r llofft.
Dilynodd Doctor Treharne y sarjiant ar draws iard goncrid, lydan at adeiladau wedi eu paentio'n llwyd, diflas.
Mae system meiciau cyswllt newydd a chamerâu sgrîn lydan wedi eu gosod yn stiwdio C1.
Yna cododd a chroesi at y ddesg lydan yng nghongl yr ystafell.
Un dydd, hanner ffordd trwy'r ymweliad, sefyll am ychydig funudau ar y briffordd lydan sydd, yn y pen draw, yn sgubo trwy ogledd y cyfandir o Berlin i Helsinki.
Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.
Fe ellid dadlau, wrth gwrs, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng moderniaeth Cymru a'r modernismo y bu+m yn ceisio olrhain rhai o'i deithi, ac a oedd yn fynegiant pwysig o'r 'argyfwng byd-lydan' y cyfeiriodd Onis ato.
Y mae dadansoddiad o nodau uchder ar fapiau AO, fel yr enwau Glan-yr-afon a Rhyd Lydan, yn tystio ymhellach i'r ffaith mai i'r gorllewin o'r llwybr presennol y gorweddai llwybr gwreiddiol Afon Cefni o ad-drefnu'r rhwydwaith traenio crewyd sianelau dwr hollol newydd, sianelau y rhoddwyd enwau penodol iddynt.
Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho.
Roedd Henry ac Anna fach wedi bod wrth eu bodd yn cael mynd ar draws yr afon lydan yn y cwch.